<p>Adleoli Swyddi’r Adran Gwaith a Phensiynau</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 1 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 2:28, 1 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Weinidog, gyda’r AS dros Lanelli, Nia Griffith, cynhaliais gyfarfod cyhoeddus gorlawn yn ddiweddar â’r gweithwyr yr effeithir arnynt yn Llanelli—gyda’r mwyafrif llethol ohonynt yn fenywod—ac roedd cryn gefnogaeth yno i’r syniad o gyd-leoli â gwasanaethau cyhoeddus eraill yn y dref. A bod yn deg â Chyngor Sir Caerfyrddin, maent wedi gwneud popeth yn eu gallu i sicrhau bod opsiynau ar gael i’w trafod gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau. Mae’r gweithwyr eu hunain yn pwysleisio eu bod yn amcangyfrif eu bod yn gwario o leiaf £0.5 miliwn y flwyddyn yn yr economi leol yng nghanol y dref, a byddai’n gryn ergyd pe collid hynny.

Yr wythnos hon, cafodd Nia Griffith lythyr gan Damian Hinds, Gweinidog cyflogaeth Llywodraeth y DU, a ddywedodd fod ganddynt fwy o gapasiti yn yr ystad nag sydd ei angen, ac nad ydynt mewn sefyllfa felly i ystyried rhentu gofod gan Gyngor Sir Caerfyrddin. Ar yr un pryd, dywedodd fod hyn yn dal i fod yn destun ymgynghoriad, ond ymddengys bod Llywodraeth y DU wedi gwneud eu penderfyniad. A wnaiff y Gweinidog annog y Prif Weinidog i gysylltu â Phrif Weinidog y DU ynglŷn â hyn, gan mai hi yw’r un a ddywedodd fod y Llywodraeth wedi ymrwymo i ledaenu cyfoeth i bob rhan o’r DU ar ôl Brexit, a byddai hyn yn mynd yn groes i hynny?