Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 1 Mawrth 2017.
Gwnaf, rwy’n fwy na pharod i ofyn i’r Prif Weinidog wneud hynny. Rwy’n hapus i ysgrifennu i wneud y pwyntiau hyn fy hun eto. Credaf eu bod yn bwyntiau pwysig iawn. Fel y gŵyr yr Aelodau yn y Siambr hon, rydym yn datblygu ein cynllun cyflogadwyedd. Mae llawer o swyddogaethau’r cynllun cyflogadwyedd yn cyd-daro â swyddogaethau’r Adran Gwaith a Phensiynau, ac rydym wedi bod yn siarad â hwy ynglŷn â chyd-leoli gwasanaethau. Nid yw hynny o reidrwydd yn golygu rhentu; mae yna ffyrdd eraill o wneud hyn.
Rydym yn awyddus iawn i’r sgyrsiau hynny fod yn adeiladol ac yn seiliedig ar yr angen am wasanaethau mewn ardal benodol, yn hytrach na’r angen am strategaeth ystadau benodol. Credaf y byddai’n annoeth iawn cynllunio gwasanaethau y mae cymaint o’u hangen ar gymunedau ar sail polisi ystadau yn hytrach nag ar sail ffocws ar gymuned a gwasanaeth cyhoeddus. Ac rwy’n hapus iawn i wneud y pwyntiau hynny eto, a byddaf yn gwneud hynny maes o law.