Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 1 Mawrth 2017.
Mewn egwyddor, rwy’n cefnogi arweiniad Ysgrifennydd y Cabinet yn y maes hwn, yn ogystal â defnyddio datblygu economaidd a gwella seilwaith er mwyn lleihau tlodi. Fodd bynnag, mae’r newid polisi a chael gwared ar Cymunedau yn Gyntaf wedi achosi pryder ar ei feinciau ei hun. A yw’n sicr y bydd y dull newydd o weithredu yn cynorthwyo’r bobl dlotaf yn ein cymdeithas?