<p>Lleihau Tlodi</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 1 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:31, 1 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Ydw. Profwyd mai’r ffordd orau o atal pobl rhag tlodi, a’r ffordd orau o gynorthwyo pobl i godi allan o dlodi, yw sicrhau gwaith cynaliadwy o ansawdd ar eu cyfer. Ac oherwydd hynny, credaf ei bod yn bwysig fy mod yn arwain yr agenda ffyniant i bawb. Wedi dweud hynny, mae sawl ffactor a allai effeithio ar unigolion nad ydynt mewn gwaith, neu sydd wedi treulio cyfnodau sylweddol o’u bywydau allan o waith. Ac am y rheswm hwnnw, rwy’n gweithio gyda chyd-Aelodau yn y Cabinet ym maes iechyd, cymunedau, cyllid ac addysg i sicrhau ein bod yn mynd i’r afael â’r heriau hynny gyda’n gilydd, ac fel rhan o bedair strategaeth drawsbynciol yr ydym yn eu datblygu, mae’r Llywodraeth yn parhau i ganolbwyntio ar sicrhau nad ydym yn anghofio neb yn ein hymgais i sicrhau cymaint o gyflogaeth â phosibl.