Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 1 Mawrth 2017.
Hoffwn yn fawr longyfarch y cwmni yn etholaeth fy nghyd-Aelod. Mae Welsh Hills Bakery yn enghraifft o lwyddiant rhyfeddol. Credaf i mi ymweld â’r cwmni yn yr hydref y llynedd, ar gyfer dathlu eu trigeinmlwyddiant.
A chredaf y bydd yr economi sylfaenol yn chwarae rhan fwyfwy pwysig yn cynnig mynediad i bawb at waith, yn ogystal â chyfleoedd i gaffael sgiliau a fydd yn eu galluogi i gamu ymlaen i yrfaoedd a chyflogau gwell. Wrth gwrs, gall yr economi sylfaenol fod o fudd i’r holl gymunedau ledled Cymru, ac oherwydd hynny rwy’n edrych yn ofalus iawn arni fel rhan o’r strategaeth ffyniannus a diogel ehangach ar gyfer Cymru.