<p>Lleihau Tlodi</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 1 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 2:33, 1 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, mae helpu pobl i gael gwaith yn fesur allweddol o lwyddiant i leihau tlodi. Croesawaf dro pedol Llywodraeth Cymru, felly, ar gael gwared ar y cynllun teithio rhatach ar fysiau i bobl ifanc. A all Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau y bydd unrhyw gynllun newydd yn cael y gefnogaeth angenrheidiol i sicrhau ei fod yn llwyddiant hirdymor, fel bod modd i’n pobl ifanc, yn enwedig yn ein cymunedau difreintiedig yn ne-ddwyrain Cymru, gael mynediad at hyfforddiant, cyfleoedd gwaith neu addysg bellach? Diolch.