Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 1 Mawrth 2017.
Diolch yn fawr iawn am eich ateb, ac yn amlwg, yn lleol, rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth i fargen dinas-ranbarth Bae Abertawe. Er bod denu cyflogwyr mawr i ranbarth yn bwysig ar gyfer swyddi a’r economi, mae 99 y cant o’n busnesau yn fentrau bach a chanolig eu maint, a 75 y cant yn ficrofusnesau mewn gwirionedd, fel y gwyddoch eisoes, sy’n golygu bod busnesau bach yn chwarae rhan bwysig iawn yn lleol, yn enwedig yn y gadwyn gyflenwi. Nododd her Llywodraeth y DU i’r bwrdd presennol yr angen am ragor o ymwneud ar ran y sector preifat yng nghais y fargen ddinesig, a tybed a ydych chi ac Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol yn barod i weithio gyda phartneriaid i sicrhau bod cydbwysedd priodol o gynrychiolwyr busnesau bach ar fwrdd nesaf y prosiect, er mwyn sicrhau bod y 95 y cant hynny o’n busnesau yn cael eu cynrychioli’n ddigonol hefyd. Diolch.