<p>Dinas Ranbarth Bae Abertawe</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 1 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:36, 1 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Byddwn yn cytuno gyda’r Aelod; rydym yn awr yn dechrau ar gyfnod hollbwysig i fargen ddinesig Abertawe, ac yn ystod y misoedd diwethaf, rwy’n gwybod bod cryn dipyn o waith wedi’i wneud ar baratoi ar gyfer y broses herio, a bod ymdrech ar y cyd i ddenu barn y sector preifat. Ond rwy’n credu bod yn rhaid i’r sector preifat fod yn rhan lawn o ystyriaethau’r fargen ddinesig, a bod rhaid i bob un o’r prosiectau blaenoriaeth fod o fudd nid yn unig i gyflogwyr mawr, ond hefyd i’r microfusnesau bach y mae’r Aelod yn sôn amdanynt, ac sy’n ffurfio rhywbeth yn debyg i 98 i 99 y cant o’r holl gyflogwyr yng Nghymru, yn enwedig yn rhanbarth fy nghyd-Aelod.

Rwyf hefyd yn awyddus i sicrhau, ar wahân i’r dull dinas-ranbarth o weithredu, ac ochr yn ochr ag ef mewn gwirionedd, ein bod yn mynd i barhau i gynorthwyo busnesau bach a chanolig eu maint a microfusnesau drwy raglen Busnes Cymru. Ac wrth gwrs, lansiwyd cam diweddaraf y rhaglen Busnes Cymru ym mis Ionawr, ac mae’n rhoi’r dasg i Busnes Cymru o gynorthwyo degau o filoedd o gwmnïau bach a micro, gan gynnwys y rhai yn ardal y ddinas-ranbarth.