Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 1 Mawrth 2017.
Mewn digwyddiad economi yn fy etholaeth a gynhaliais cyn y Nadolig, pan gafwyd anerchiad gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, un o’r materion a nodwyd i wella cynhyrchiant oedd mater caffael sgiliau, ac yn bwysig, dilyniant sgiliau drwy’r daith gyflogaeth. Felly, byddant wedi bod yn falch o glywed y pwyslais ar hynny yn y cynllun prentisiaeth newydd. Ond yn fwy eang na hynny, a yw’n cytuno bod angen i ni ddod o hyd i ffyrdd o droi technoleg, sy’n aml yn gallu bod yn fygythiad i rai o’r swyddi yn ein rhanbarth, yn ased, ac y dylem anelu at weld adnoddau sgiliau ar gael yn eang ar-lein, adnoddau rhad ar gyfer ymdrwytho a rhyngweithio, sy’n caniatáu i weithwyr gael hyfforddiant modiwlaidd wedi’i deilwra i ddatblygu eu sgiliau mewn ffordd sy’n cyd-fynd â’u hanghenion a’u gofynion eu hunain? A pha gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i annog datblygiad o’r fath?