Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 1 Mawrth 2017.
A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei chwestiwn a llongyfarch traeth Rhosili? Mae’n gamp wych ac rwy’n credu ei bod yn deg dweud ei fod yn cael ei gydnabod o amgylch Prydain ac ar draws Ewrop fel un o draethau gorau’r cyfandir. Rydym yn awyddus i sicrhau y gall mwy o bobl ymweld â Chymru mewn ffordd gyfleus am y rheswm hwnnw. Rydym yn parhau i gefnogi Maes Awyr Caerdydd, rydym yn parhau i gefnogi teithio ar y rheilffyrdd ac rydym yn parhau i gefnogi ein rhwydwaith bysiau, ond credwn y gellir gwneud gwelliannau pellach, nid yn unig i’n seilwaith rheilffyrdd a’n gwasanaethau rheilffyrdd, ond hefyd i’r rhwydwaith bysiau. Fel yr amlinellais mewn cyfres o ddatganiadau i’r Siambr bellach, yn y pedair blynedd nesaf credaf y gallwn newid y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu a’u gweithredu yn helaeth a sicrhau gwelliannau sylweddol i deithwyr, nid yn unig y rhai sy’n ymweld â Chymru, ond ar gyfer dinasyddion Cymru yn ogystal.