Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 1 Mawrth 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, ychydig wythnosau yn ôl, fe ddywedoch wrthyf mewn perthynas â diogelu treftadaeth i allu hyrwyddo twristiaeth ffydd, ei bod hi’n hanfodol fod Croeso Cymru yn defnyddio ei sgiliau i hyrwyddo Cymru o amgylch y byd ac i gynnig cyngor yn ogystal. Er eich bod wedi nodi bod Cadw wedi gweld cynnydd yn nifer yr ymwelwyr â Thyndyrn a Glyn y Groes, nid oes yr un o’r rheini yng Ngorllewin De Cymru mewn gwirionedd. A allwch roi rhywfaint o fanylion i mi ynglŷn â sut y gobeithiwch y gall Croeso Cymru ddefnyddio safle angor fel Abaty Nedd—fe wyddech y byddwn yn dweud hyn—er mwyn tynnu sylw at yr hyn sydd, wedi’r cyfan, yn safle porth? Mae Cwm Nedd a Chwm Tawe yn llawn o drysorau i ymwelwyr. Felly, pa gefnogaeth y gall Llywodraeth Cymru ei roi i Abaty Nedd fel safle penodol er mwyn agor y llifddorau i ymwelwyr â’r ddau gwm hwnnw?