<p>Ymwelwyr â Gorllewin De Cymru</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 1 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:44, 1 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Mae ein treftadaeth yn hynod o bwysig yn ein cynnig diwylliannol a thwristiaeth ac mae Abaty Nedd yn elfen bwysig iawn o’r tirlun treftadaeth yn rhanbarth yr Aelod. Rwy’n falch iawn o ddweud bod Cadw yn awr yn cynorthwyo Abaty Nedd drwy gael tîm crefft mewnol pwrpasol sy’n gweithio ar y safle. O ganlyniad, mae rhai rhannau o’r abaty ar gau i’r cyhoedd ar hyn o bryd, ond gyda gwaith pwrpasol gan y tîm crefft yn fewnol, rwy’n gobeithio gallu trawsnewid yr abaty i fod yn gyrchfan twristiaeth a chyfle llawer gwell a mwy deniadol i ymwelwyr. Ond nid dyma’r unig safle yn rhanbarth yr Aelod sy’n cael cymorth gan Lywodraeth Cymru. Mae yna asedau eraill, megis castell Oxwich a gwaith copr y Morfa yn yr Hafod a chastell Ystumllwynarth, sydd oll yn derbyn cyllid. Rwy’n awyddus i wneud yn siŵr ein bod yn gallu sianelu cymaint o adnoddau â phosibl tuag at dde-orllewin Cymru gan ei bod yn rhan hynod o ddeniadol o’r DU, ac rwy’n meddwl efallai y bydd yr Aelod heno, os yw’n gwylio teledu, yn gweld yr hysbyseb newydd gan Croeso Cymru, sy’n arddangos peth o’n hamgylchedd naturiol gorau, ond sydd hefyd yn gwahodd pobl yn 2017 i gynhyrchu eu straeon chwedlonol eu hunain yng Nghymru.