Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 1 Mawrth 2017.
Ie, yn hollol, Llandegla, fel y nodwch. Mae’n bwysig ein bod yn gallu dod o hyd i gyfleoedd i ailblannu’r hyn sy’n aml wedi’i golli. Am y rheswm hwnnw, rwy’n gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i nodi mwy o gyfleoedd ar gyfer ailblannu coed a gollwyd, nid yn unig, fel y dywedais, er mwyn cefnogi’r sector gweithgynhyrchu, ond i gefnogi’r economi ymwelwyr yn ogystal.