<p>Twf Economaidd</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 1 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 2:48, 1 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, fel y gwyddoch, mae seilwaith cysylltiol a rhwydweithiau trafnidiaeth o safon yn hanfodol i lwyddiant unrhyw economi ac maent yn arbennig o allweddol yn ardal porth gogledd-ddwyrain Cymru. Am y rheswm hwnnw, rwyf wedi croesawu’r newyddion am fwriad Llywodraeth Cymru i ymgynghori ar y gwelliannau mawr eu hangen i goridor Glannau Dyfrdwy—un o’r darnau prysuraf o ffordd yng ngogledd Cymru. Fe fyddwch yn gwybod bod hyn wedi cael ei ddwyn i fy sylw dro ar ôl tro gan etholwyr a chymudwyr fel ei gilydd, a byddaf yn annog llawer o unigolion, sefydliadau cymunedol a busnesau i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, sy’n amlinellu dau opsiwn posibl ar gyfer gwella, pan fydd yn dechrau ar 13 Mawrth.

Wrth i ni aros am ganlyniad yr ymgynghoriad, rwy’n croesawu’r ymrwymiad hwn gan Ysgrifennydd y Cabinet, a fydd yn sicrhau dros £200 miliwn o fuddsoddiad yn ein hardal. Ond Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ymrwymo i roi’r newyddion diweddaraf i’r Cynulliad ac felly, i’n cymunedau a’n hetholwyr yn yr ardal, ar gynnydd y cynllun hollbwysig hwn a fydd yn gyfraniad pwysig i ysgogi twf economaidd yn yr ardal?