<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 1 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:05, 1 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rydym wedi trafod pwysau’r gaeaf ar adrannau damweiniau ac achosion brys ar sawl achlysur. Erbyn hyn mae gennym y ffigurau ar gyfer mis Ionawr sy’n dangos mai 74.1 y cant yn unig o gleifion mewn unedau damweiniau ac achosion brys mawr sy’n cael eu gweld o fewn pedair awr. Nawr, pan gafodd y ffigurau hynny eu rhyddhau, rwy’n meddwl bod adroddiad y BBC wedi datgan:

Yn ddiau, bydd ochneidiau o ryddhad yn Llywodraeth Cymru.

A wnaethoch chi anadlu ochenaid o ryddhad pan welsoch y ffigurau hynny?