3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 1 Mawrth 2017.
Diolch. Galwaf yn awr ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, ac yn gyntaf yr wythnos hon, Caroline Jones.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, fe wnaeth Heddlu De Cymru ymdrin â mwy o ddigwyddiadau iechyd meddwl y llynedd nag unrhyw heddlu arall yn y DU. Fe wnaeth swyddogion yr heddlu yn ne Cymru ymdrin â bron i 39,000 o ddigwyddiadau iechyd meddwl yn ystod 2016. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych yn cytuno y dylai pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl gael gofal gan wasanaethau iechyd meddwl arbenigol, yn hytrach na’r system cyfiawnder troseddol? A allwch amlinellu’r camau gweithredu yr ydych yn eu cymryd i leihau nifer y digwyddiadau iechyd meddwl sy’n cael eu trin gan swyddogion yr heddlu?
Diolch i’r Aelod am y sylwadau. Rwy’n credu bod angen i ni fod yn glir ynglŷn â’r hyn yr ydym yn siarad yn ei gylch, oherwydd mae i ba raddau y mae pobl yn parhau i weld cell heddlu fel man diogel yn parhau i fod yn her, ac nid dyna farn y Llywodraeth hon, na’r heddlu, na’r gwasanaeth iechyd. Mewn gwirionedd gwnaed llawer o waith gwell rhwng GIG Cymru a heddluoedd ar draws y wlad, ac rwy’n falch o weld bod gostyngiad sylweddol yn nifer y bobl a leolwyd yn amhriodol. Rydym yn awr i lawr at ffigurau bach iawn. Mae’n dal i fod angen gwelliant pellach, ond mae’n dibynnu’n wirioneddol ar y categoreiddio y mae’r Aelod yn ei ddefnyddio, a pha un a yw’r rhain yn bobl sy’n rhannol yn y system cyfiawnder troseddol yn briodol ai peidio neu’n bobl â phroblemau iechyd meddwl sy’n cael eu camleoli a heb fod yn cael gofal priodol ar gyfer eu hanghenion gofal eu hunain mewn gwirionedd.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae mynegai lles yn y gweithle Mind yn dangos mai problemau iechyd meddwl yw prif achos absenoldeb yn y gweithle. Nid yw’r GIG hyd yn oed yn rhydd rhag hyn a chollwyd traean o filiwn o ddiwrnodau yn sgil problemau iechyd meddwl ymhlith staff iechyd y llynedd. Un o’r rhwystrau mwyaf i fynd i’r afael â’r broblem yw diffyg mynediad at therapïau seicolegol a siarad. Beth y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i wella mynediad at therapïau seicolegol a lleihau amseroedd aros ar gyfer triniaeth iechyd meddwl yng Nghymru?
Nid yw’n syndod i mi mai rhesymau iechyd meddwl yw un o brif achosion absenoldeb yn y gweithle. O fy amser blaenorol y tu allan i’r lle hwn, yn ogystal ag ynddo, buaswn yn synnu pe na bai hynny’n wir. Ein her yw hon: sut y mae adnabod salwch meddwl a phroblemau’n ymwneud â straen yn y gweithle? Mae gennym raglenni gweithgaredd penodol, gan weithio gyda chyflogwyr, a’r dyfarniadau a roddwn i annog cyflogwyr i wella gofal a chynllunio gofal ymlaen llaw i’w gweithlu—gan gydnabod y manteision sylweddol iddynt hwy fel busnes o wneud hynny—yn ogystal â sut i fynd ati i gynorthwyo pobl os ydynt allan o’r gweithle. Mae rhywbeth yno ynglŷn â buddsoddi mewn gwasanaethau galwedigaethol yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus i ofalu am ein gweithwyr, ac yna, os oes angen i bobl gael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl arbenigol a therapïau siarad, rydym wedi buddsoddi yn y gwasanaethau hynny’n llwyddiannus ac yn gynyddol wrth gwrs. Mae’r sefydliad hwn, fel Cynulliad, ac yn wir, y Llywodraeth, wedi cydnabod ers nifer o flynyddoedd yr angen i drin iechyd meddwl a chorfforol gyda pharch cydradd, ac mae hynny wedi arwain at fuddsoddi pellach mewn gwasanaethau iechyd meddwl. Ni yw’r rhan gyntaf o’r DU i gael safonau amser gweithio ystyrlon, ac mewn gwirionedd, mae ein perfformiad yn erbyn y rheini’n gymharol dda. Fodd bynnag, mae mwy o le i gyflawni a mwy i’w wneud. Felly, gallwn gymryd rhywfaint o gysur yn yr hyn a wnaethom yn barod a’r flaenoriaeth i’r maes gweithredu hwn, ond mae llawer mwy i’w wneud cyn y gall unrhyw un ohonom ddweud ein bod yn fodlon.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Er ein bod yn croesawu camau i wella’r niferoedd sy’n gweithio ym maes gofal iechyd meddwl, megis cyflwyno cyrsiau newydd ym Mhrifysgol Glyndŵr yn canolbwyntio ar iechyd meddwl a llesiant, rydym yn dal i fod yn brin o staff a chyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru. Sut rydych yn ymateb i gyfarwyddwr Mind Cymru, sy’n datgan nad yw’r maes iechyd meddwl yn cael digon o arian o bell ffordd o hyd? Pa gynlluniau sydd gan eich Llywodraeth i gynyddu adnoddau a ddyrennir i fynd i’r afael â phroblemau iechyd meddwl, a wynebir gan un o bob pedwar ohonom?
Wel, fe fyddwch yn gwybod o’r gyllideb fod y lle hwn wedi pasio i roi adnoddau ychwanegol sylweddol tuag at iechyd meddwl. Dyma’r maes gwariant mwyaf yng nghyllideb y gwasanaeth iechyd, a deilliodd hynny o’r drafodaeth synhwyrol ac aeddfed a ddigwyddodd rhwng y Llywodraeth hon a Phlaid Cymru ac eraill. Nawr, mae hynny wedi golygu ein bod yn parhau i roi blaenoriaeth i iechyd meddwl fel maes gweithredu, ac nid dyna’r sefyllfa y mae’r trydydd sector yn cydnabod sy’n digwydd dros y ffin. Nid wyf yn cwyno bod y trydydd sector yn y maes hwn, neu unrhyw faes arall, yn galw am fwy o adnoddau. Eu gwaith yw ymgyrchu; eu gwaith yw hyrwyddo achosion. Ein gwaith ni, fodd bynnag, yw rheoli grŵp cyfyngedig o adnoddau. Felly, nid wyf yn meddwl ei bod yn ddigon da i Lywodraeth ddweud yn syml, ‘Mae rhywun wedi galw am fwy, felly byddwn yn ei ddarparu’. Mae’n rhaid i ni gydbwyso hynny yn erbyn blaenoriaethau eraill. Rwy’n glir fod hwn yn faes gweithredu â blaenoriaeth, ac rydym yn gweld hynny mewn gweithred ac nid mewn geiriau’n unig gyda’n buddsoddiad ychwanegol mewn gwasanaethau iechyd meddwl.
Diolch yn fawr iawn. Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rydym wedi trafod pwysau’r gaeaf ar adrannau damweiniau ac achosion brys ar sawl achlysur. Erbyn hyn mae gennym y ffigurau ar gyfer mis Ionawr sy’n dangos mai 74.1 y cant yn unig o gleifion mewn unedau damweiniau ac achosion brys mawr sy’n cael eu gweld o fewn pedair awr. Nawr, pan gafodd y ffigurau hynny eu rhyddhau, rwy’n meddwl bod adroddiad y BBC wedi datgan:
Yn ddiau, bydd ochneidiau o ryddhad yn Llywodraeth Cymru.
A wnaethoch chi anadlu ochenaid o ryddhad pan welsoch y ffigurau hynny?
Rwy’n credu bod honno’n ffordd ryfedd iawn o geisio gofyn cwestiwn am fater difrifol i’r gwasanaeth iechyd ac i bawb sy’n gweithio ynddo. Mae hwn yn fater real a difrifol i bobl sydd angen gofal, yn enwedig yn ystod y gaeaf, pan wyddom fod mwy o bobl hŷn yn fwy tebygol o fod angen eu derbyn i’r ysbyty i gael gofal, a mwy o bobl hŷn angen cymorth yn eu cartref eu hunain. Nid yw’n ymwneud ag anadlu ochenaid o ryddhad; mae’n ymwneud ag edrych ble rydym fel system gyfan. Lle rydym yn cydnabod bod angen gwelliant pellach—ac nid yn unig yn yr adrannau damweiniau ac achosion brys, ond y pwyntiau a wnaethom yn flaenorol ynglŷn â gofal wedi’i gynllunio ymlaen llaw y byddwch yn gyfarwydd ag ef yn eich etholaeth eich hun gyda’r gwaith gofal ymlaen llaw sy’n digwydd ar Ynys Môn, ac ynglŷn ag oedi wrth drosglwyddo gofal yn ogystal. Fel y gwelsom o’r ffigurau diwethaf, rydym wedi gwneud gwelliannau ac mae lle i wella ymhellach, gan fod angen i’r system gyfan weithio gyda’i gilydd, iechyd a gofal cymdeithasol. Nid yw’n ymwneud ag ochenaid o ryddhad; mae’n ymwneud â dweud, ‘Ble rydym yn awr? Beth arall y gallwn ei wneud, ac a yw’r system yn gadarn?’ Mae’r system yn ymdopi, ond mae’n frwydr go iawn. Rydym yn ei weld yn y staff, rydym yn ei weld yn y bobl sydd angen gofal, ac rwy’n disgwyl ac yn dymuno gweld gwelliannau pellach yn ystod y flwyddyn, ac i baratoi ar gyfer y gaeaf nesaf hefyd.
Nid yw’n ffordd ryfedd o ofyn o gwbl. Mae’n gofyn am eich asesiad o’r sefyllfa rydym ynddi. Buaswn wedi hoffi clywed neges lawer cryfach fel ‘rhaid cael llawer mwy o welliant’. Y ffigurau hynny ar gyfer Cymru—74.1 y cant yn cael eu gweld o fewn pedair awr—carwn eich atgoffa bod y ffigur yn 82 y cant yn Lloegr, y perfformiad gwaethaf ers 13 mlynedd, sy’n cael ei ystyried yn sgandal ac yn argyfwng yn Lloegr. Wrth gwrs fod yna le i wella yng Nghymru.
Rydym wedi trafod pwysigrwydd gofal sylfaenol a gofal cymdeithasol, wrth gwrs, yn helpu i leihau’r pwysau ar yr adrannau damweiniau ac achosion brys ar sawl achlysur o’r blaen. Hoffwn ganolbwyntio ar rôl meddygon teulu yn darparu apwyntiadau brys. Hoffwn gofnodi fy nghydymdeimlad yma â theulu Ellie-May Clark, yr adroddwyd am ei hachos dros y penwythnos. Heb fynd i fanylion am yr achos hwn, mae’n amlwg nad yw achos o’r fath yn mynd i helpu’r canfyddiad a glywsom i gyd, ar adegau, ei bod yn anodd cael apwyntiadau meddygon teulu. Nawr, ddoe, rhyddhaodd y comisiynydd pobl hŷn adroddiad yn tynnu sylw at y rhwystrau y mae llawer o bobl yn eu hwynebu wrth geisio cael mynediad at feddyg teulu, gyda’r canfyddiadau hynny ynglŷn â’r anhawster i gael eich gweld yn amlwg iawn yn yr adroddiad hwnnw. Wrth gwrs, mae diffyg data go iawn yn golygu nad ydym yn gwybod yn iawn a yw’r canfyddiadau’n cyfateb i realiti, ond un canlyniad yn sicr yw bod mwy o bobl yn mynd i fynd i adrannau damweiniau ac achosion brys os yw’r canfyddiad yno; fe wyddom am y pwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys. Un ffordd o fynd i’r afael â’r canfyddiad, wrth gwrs, fyddai casglu a chyhoeddi mwy o ddata am amseroedd aros i weld meddyg teulu. A ydych yn derbyn bod arnom angen data perfformiad ar argaeledd apwyntiadau ac amseroedd aros i weld meddyg teulu er mwyn mynd i’r afael â’r canfyddiadau hynny?
Nid wyf yn credu mewn gwirionedd y byddai’n ddefnyddiol ceisio dweud y byddwn yn dechrau casglu data ar gyfer amseroedd aros i weld meddygon teulu ac apwyntiadau. Byddai angen datblygu system sylweddol i wneud hynny, ac nid wyf wedi fy argyhoeddi o gwbl mai dyna fyddai’r peth iawn i’w wneud i wella mynediad i gleifion. Mae gennym ystod o wahanol ffyrdd o geisio edrych ar wella mynediad i gleifion, gan gynnwys sgyrsiau rhwng cymheiriaid mewn gwirionedd, rhwng gweithredwyr gofal sylfaenol sy’n deall beth yw arferion gorau, a’r effaith y mae hynny wedi’i chael ar y staff o fewn y gwasanaeth yn ogystal ag ar y dinasyddion y maent yn eu gwasanaethu. Rwy’n hapus i edrych ar ffyrdd amgen o wella ymarfer, pa un a yw’r syniadau’n dod gan bartïon eraill neu’n wir, y sgyrsiau yr ydym yn parhau i’w cael â Chymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol am realiti’r sefyllfa y maent yn ei hwynebu wrth ofalu am ein cleifion ar hyd a lled y wlad. Mae’r achos trasig a grybwyllwyd gennych yn enghraifft unigol nad wyf yn credu y byddai’n rhesymol ceisio’i gwneud yn enghraifft ddarluniadol o realiti’r gofal a ddarperir ar hyd a lled ein gwlad. Mae’n achos trasig, ac edrychaf ymlaen at weld canlyniad cwest y crwner i’r hyn a ddigwyddodd.
Mae’n ymwneud â mynd i’r afael â chanfyddiadau, fodd bynnag, ac rwy’n siomedig braidd unwaith eto. Mae data yn bwysig tu hwnt. Yn aml iawn, mae’r Gweinidog yn honni cyflawniad ac ni cheir unrhyw ddata i gefnogi hynny, pan fo data ar gael yn aml i ddangos lle y mae problemau’n digwydd yn y GIG. Ceir problem sylfaenol, wrth gwrs, yn y system gofal brys drwyddi draw. Gwyddom fod yna bobl o bob oed â chyflyrau cronig sydd angen eu rheoli yn y gymuned, gan gynnwys gallu cael ymgynghoriadau ar yr un diwrnod ac yn y blaen lle y bo angen.
Nawr, mae adroddiad y comisiynydd pobl hŷn hefyd yn tynnu sylw at y rhwystrau y mae llawer o bobl yn eu hwynebu wrth drafod materion gyda meddyg teulu nad ydynt yn ei adnabod o bosibl, gyda therfyn ar faint o amser sydd ganddynt i ddisgrifio’r symptomau ac yn y blaen. Mae’r adroddiad hyd yn oed yn nodi bod un person wedi sôn am hysbysiad yn nerbynfa un feddygfa yn nodi bod yna reol un mater yn unig—sy’n amlwg yn amhriodol mewn oes lle y mae gan fwy a mwy o bobl gyflyrau lluosog sy’n rhaid i’r GIG ymdrin â hwy. A ydych yn derbyn, felly, os yw cleifion yn teimlo’u bod yn cael eu rhuthro gan feddyg teulu, neu eu troi ymaith o apwyntiad, fod diogelwch cleifion yn cael ei beryglu yn y pen draw? A ydych yn cytuno nad yw’r naill arfer na’r llall yn dderbyniol ac mae angen eu stopio?
Wel, rwy’n meddwl ei bod yn annheg iawn dweud fy mod yn hawlio cyflawniad ar ran y gwasanaeth iechyd heb fod yna ddata neu dystiolaeth i’w gefnogi. Rwy’n cydnabod yr hyn a ddywedwch am ganfyddiad, ond nid wyf yn credu bod hyrwyddo canfyddiad dros dystiolaeth yn beth arbennig o ddefnyddiol i lefarydd yr wrthblaid ei wneud. Rwy’n rhoi ystyriaeth ddifrifol i adroddiad y comisiynydd pobl hŷn, ac rwyf eisoes wedi ymrwymo i ysgrifennu at fyrddau iechyd yn tynnu sylw at y negeseuon o’r adroddiad hwnnw ac yn eu hatgoffa am y canllawiau y bydd y comisiynydd pobl hŷn yn eu cyhoeddi.
Rwyf am weld sgwrs go iawn rhwng y Llywodraeth, y gwasanaeth iechyd, ymarferwyr o fewn y gwasanaeth, a’r cyhoedd, ar yr hyn a fyddai’n gwneud gwahaniaeth iddynt hwy. Rydym yn gweld enghreifftiau da ar draws y wlad o newidiadau mewn ymarfer sy’n gwella mynediad ar gyfer pobl ac yn ei gwneud yn haws iddynt gael ymgynghoriad â’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol iawn ar yr adeg iawn iddynt hwy. Dyna fydd ein hymagwedd o hyd gan ein bod yn cydnabod ein bod yn credu bod angen gwella mynediad ar draws pob rhan o’n system gofal iechyd, i sicrhau bod cleifion yn cymryd mwy o ran ac yn cael mwy o ymgysylltiad, ac mae hynny’n golygu y bydd angen i’r bobl sy’n cael mynediad at ein gwasanaeth ac yn ei ddefnyddio ymddwyn mewn ffordd wahanol a deall gwahanol ffyrdd o gael mynediad at y gwasanaeth hwnnw, a’u cefnogi i wneud hynny a chael y newidiadau a wneir wedi’u hesbonio—er enghraifft, proses ymgynghori fwy anghysbell fel pwynt cyntaf, er enghraifft yn y prosiect pennu cyfeiriad yng Nghastell-nedd a welais gyda Jeremy Miles a David Rees; mae hwnnw wedi’i esbonio’n dda yno ac at ei gilydd, yn cael ei gefnogi a’i dderbyn yn dda gan y cyhoedd—ond hefyd mae’n ymwneud â chynorthwyo ein staff i weithio mewn gwahanol ffyrdd.
Diolch yn fawr iawn. Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Suzy Davies. Rwy’n meddwl bod eich cwestiynau i’w cyfeirio at y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Diolch i chi am eich cyhoeddiad ddoe ar benodi bwrdd cychwynnol Gofal Cymdeithasol Cymru. Fel y gwyddom, bydd ei ddyletswyddau’n ymestyn ymhell y tu hwnt i ddyletswyddau cofrestru fel y’u cyflawnir gan y cyngor gofal, a gwnaeth ei gadeirydd yn glir i mi ddoe eu bod yn edrych ymlaen at ddefnyddio’u harbenigedd cyfunol i fod yn gyfaill beirniadol i’r Llywodraeth yn ogystal â dylanwadu ar gyfeiriad a blaenoriaethau polisi ar gyfer gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymdeithasol. Gobeithio y bydd hyn yn unioni anghydbwysedd yr un llais arbenigol ar gyfer gofal cymdeithasol ar y panel adolygu seneddol. Sut rydych chi fel Gweinidog yn bwriadu manteisio ar y corff hwn o arbenigedd er mwyn atal yr agenda integreiddio rhag arwain at ryw fath o fodel meddygol ar gyfer gofal cymdeithasol, a sut rydych wedi gwerthuso faint yn fwy o adnoddau fydd eu hangen arno na’r cyngor gofal er mwyn gallu cyflawni ei rolau ym maes datblygiad proffesiynol a dylanwadu ar bolisi?
Diolch i chi am y cwestiwn. Rwy’n deall eich bod wedi cael cyfarfod defnyddiol iawn gydag aelodau o’r bwrdd ddoe, ac rwy’n meddwl bod dyfodiad Gofal Cymdeithasol Cymru yn amser cyffrous iawn ar gyfer y ddarpariaeth gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol yn ehangach yng Nghymru. Pan oeddwn yn llunio aelodaeth y bwrdd—a dylwn ddweud bod y diddordeb sydd wedi’i ddangos ynddo yn ddigynsail, sydd unwaith eto, yn wirioneddol gyffrous—roeddwn yn awyddus i sicrhau bod y bwrdd yn meddu ar gydbwysedd cryf o bobl. Felly, mae gennym ddefnyddwyr gwasanaethau ar y bwrdd, mae gennym bobl o bob math o sector sy’n gweithio o fewn gofal cymdeithasol, er mwyn ceisio sicrhau bod arbenigedd a lleisiau cryf ac eang ar y bwrdd hwnnw yn ogystal. Felly, byddaf yn gweithio’n agos gyda’r bwrdd, yn enwedig yn y tymhorau cynnar, i weithio ar eu rhaglen ar gyfer y dyfodol o ran eu rhaglen waith ac yn y blaen, ac i sicrhau eu bod yn cael adnoddau priodol i wneud y gwaith y byddaf yn gofyn iddynt ei wneud.
O ran yr adolygiad seneddol, fodd bynnag, rwy’n meddwl ei bod yn annheg awgrymu nad oes digon o arbenigedd ym maes gofal cymdeithasol ar y panel hwnnw. Dewiswyd aelodau’r panel am fod ganddynt arbenigedd sy’n eu galluogi i edrych o safbwynt y system gyfan ar iechyd a gofal cymdeithasol, ac mae’r cylch gorchwyl wedi nodi’n glir mai ymagwedd system gyfan yr ydym yn ei cheisio. Wrth gwrs, sefydlwyd is-grŵp penodol hefyd, sy’n edrych yn benodol ar ofal cymdeithasol yn ogystal, felly rwy’n meddwl y bydd gofal cymdeithasol yn cael ei gynrychioli’n dda a’i ystyried yn dda gan yr adolygiad seneddol.
Rydych wedi eich bendithio, Weinidog, o ran cael y cymorth hwn i’ch helpu i wneud yn siŵr fod llais gofal cymdeithasol yn cael ei gynrychioli’n dda yn yr hyn sy’n debygol o fod yn digwydd dros gyfnod nesaf y Cynulliad hwn, beth bynnag. Un o’r pethau rwy’n tybio na fyddwch yn cael unrhyw wrthwynebiad gan neb yn ei gylch yn y Siambr hon yw’r ffocws ar integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol, a chanolbwyntio o ddifrif ar lefelau gofal sylfaenol a chanolraddol. Mae’r rhain, eu hunain, yn dermau GIG. Strwythurau meddygol ydynt, ac rwy’n meddwl y buasai datganiad pendant o fwriad i fabwysiadu model mwy cymdeithasol sy’n canolbwyntio ar integreiddio yn cael croeso yn y Siambr hon. Mewn gwirionedd, rhan o ofal cymdeithasol yn unig yw ymyrraeth feddygol. Gall cefnogaeth emosiynol a lle cyswllt dynol fod yr un mor bwysig, nid yn lleiaf i ofalwyr, na fydd ganddynt unrhyw anghenion meddygol o bosibl, wrth gwrs. Maent yn ganolog i unrhyw ystyriaeth o ofal yn y dyfodol—fel, yn wir, y bydd natur tai a chroesbeillio sgiliau mewn gweithlu integredig. Mae’n mynd i fod angen ymchwil sylweddol a pharhaus i gefnogi arferion da a datblygu polisi, felly a yw hwn yn waith yr ydych yn rhagweld, ar ryw adeg, y bydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn ei wneud? Yn amlwg, byddai’n ategu eu gwaith ym maes cynllunio a datblygu gyrfa. Ac os na, pam ddim?
Diolch i chi am y cwestiwn hwnnw, ac rwy’n cytuno bod gofalwyr yn chwarae rhan gwbl ganolog yn y system gofal cymdeithasol yn ei chyfanrwydd yng Nghymru, ac fe fyddwch yn ymwybodol ein bod yn adnewyddu ein strategaeth ofalwyr ar hyn o bryd. Rhan o hynny yw edrych ar ofalwyr ifanc, gofalwyr hŷn, gofalwyr pobl hŷn—ond ceisio sicrhau hefyd y gall gofalwyr gael bywyd y tu allan i ofalu, oherwydd gwyddom pa mor bwysig yw hynny. A bydd ein strategaeth ofalwyr yn cael ei harwain gan y pethau allweddol y mae gofalwyr yn dweud wrthym sy’n bwysig iddynt. Wrth sôn am y gronfa gofal canolraddol, mae’n well gennyf siarad amdani a meddwl amdani fel cronfa gofal integredig, ac mae’n bendant wedi ei hintegreiddio yn yr ystyr ei bod yn gweithio, mewn llawer man, yn agos i’r maes tai, er enghraifft, er mwyn sicrhau bod gennym gyfleusterau cam-i-fyny cam-i-lawr ar gael yn y lleoliad gofal ychwanegol: felly, mannau lle y gall pobl ddod o hyd i leoliad preswyl a fydd yn newid gyda’u hanghenion dros amser. Felly, efallai y bydd pobl â dementia cynnar yn gallu mynd i leoliad gofal ychwanegol, lle na fydd yn rhaid iddynt symud dros amser, ond gall y gefnogaeth sydd ar gael iddynt yn y lle hwnnw newid gyda hwy, a chredaf fod honno’n ffordd bwysig o wella’r gofal y mae pobl yn ei gael.
Yn ddiweddar, roeddwn yn lansiad prosiect Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a gynhaliwyd yng Nghaerdydd, ac mae hwnnw’n ymwneud â dod â phrifysgolion a’r sector gofal cymdeithasol ei hun at ei gilydd, gan fod gennym gymaint o arbenigedd yn y sector gofal cymdeithasol o ran ymarferwyr a gweithwyr cymdeithasol ac yn y blaen, ond nid wyf yn credu hyd yn hyn ein bod wedi bod yn gwneud y gorau o’r arbenigedd hwnnw a’r profiadau hynny a’r potensial ar gyfer ymchwil yno. Felly, unwaith eto, dyma arloesi newydd a chyffrous o ran gallu deall yn dda iawn beth sy’n digwydd mewn gofal cymdeithasol, gan edrych ar y rhwystrau a chyfleoedd ac yn y blaen, a gwrando ar y bobl sy’n gwneud y gwaith ar y rheng flaen.
Diolch yn fawr iawn am yr ateb hwnnw. Rwy’n dal yn awyddus i ddatblygu hynny ychydig ymhellach oherwydd mae dyfodol gofal cymdeithasol—nid ydym yn siarad am y peth am ei fod yn ffasiynol, ond oherwydd ei fod yn bwysig i gymaint o bobl ac rydym i gyd yn cydnabod bod angen iddo newid. A hyd yn oed er nad oes gennyf fi, yn bersonol, unrhyw farn bendant ynglŷn ag a ddylai hyn fod yn esblygiadol neu’n chwyldroadol, yr hyn rwy’n edrych amdano mewn gwirionedd yw syniad gennych pa mor ddewr y bwriadwch fod o ran arloesi. Felly, er enghraifft—ac enghraifft yn unig yw hon hefyd—ceir cartref nyrsio yn yr Iseldiroedd sy’n caniatáu i fyfyrwyr prifysgol fyw heb rent ochr yn ochr â phreswylwyr oedrannus yn y cartref nyrsio hwnnw, mewn contract ‘gweithredu fel cymydog da’ 30 awr y mis yn rhan o brosiect sy’n anelu at atal effeithiau negyddol, a cheir rhaglenni pontio’r cenedlaethau tebyg yn Lyon ac yn Cleveland yn Ohio. Mae un rhaglen, a ddechreuodd yn Barcelona yn y 1990au, wedi cael ei hefelychu mewn mwy nag 20 o ddinasoedd. Rwy’n meddwl bod gwir angen i ni edrych ar yr hyn sy’n digwydd yng ngweddill y byd. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn gwybod a ydych yn trafod syniadau tebyg gyda darparwyr preifat, cymdeithasau tai a cholegau a phrifysgolion. Ac rwy’n falch eich bod wedi awgrymu hynny yn gynharach, oherwydd os ydym yn mynd i wneud i hyn weithio mewn gwirionedd, mae’n rhaid iddo ymwneud â mwy na’r awdurdodau lleol a’r GIG yn unig.
Rwy’n cytuno bod yn rhaid i ni feddwl yn arloesol iawn am y peth, oherwydd maint yr her—nid oes dwywaith am hynny. Mae gwir angen i arloesedd fod yn ganolog i’n hymagwedd at ateb yr heriau hyn. Rwy’n gyfarwydd â rhai o’r modelau a ddisgrifiwyd gennych, ac rwyf wedi gofyn i swyddogion roi mwy o gyngor i mi, gan fy mod yn credu bod dysgu o arfer da o wledydd eraill yn rhywbeth y dylem fod yn gwbl awyddus i’w wneud—fel y byddwn yn gobeithio y gall gwledydd eraill edrych arnom ni mewn meysydd lle rydym yn perfformio’n dda hefyd.
Diolch yn fawr iawn. Trown yn awr at y cwestiynau ar y papur trefn eto. Cwestiwn 3—Dawn Bowden.