Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 1 Mawrth 2017.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Diolch i chi am eich cyhoeddiad ddoe ar benodi bwrdd cychwynnol Gofal Cymdeithasol Cymru. Fel y gwyddom, bydd ei ddyletswyddau’n ymestyn ymhell y tu hwnt i ddyletswyddau cofrestru fel y’u cyflawnir gan y cyngor gofal, a gwnaeth ei gadeirydd yn glir i mi ddoe eu bod yn edrych ymlaen at ddefnyddio’u harbenigedd cyfunol i fod yn gyfaill beirniadol i’r Llywodraeth yn ogystal â dylanwadu ar gyfeiriad a blaenoriaethau polisi ar gyfer gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymdeithasol. Gobeithio y bydd hyn yn unioni anghydbwysedd yr un llais arbenigol ar gyfer gofal cymdeithasol ar y panel adolygu seneddol. Sut rydych chi fel Gweinidog yn bwriadu manteisio ar y corff hwn o arbenigedd er mwyn atal yr agenda integreiddio rhag arwain at ryw fath o fodel meddygol ar gyfer gofal cymdeithasol, a sut rydych wedi gwerthuso faint yn fwy o adnoddau fydd eu hangen arno na’r cyngor gofal er mwyn gallu cyflawni ei rolau ym maes datblygiad proffesiynol a dylanwadu ar bolisi?