Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:19 pm ar 1 Mawrth 2017.
Rwy’n cytuno bod yn rhaid i ni feddwl yn arloesol iawn am y peth, oherwydd maint yr her—nid oes dwywaith am hynny. Mae gwir angen i arloesedd fod yn ganolog i’n hymagwedd at ateb yr heriau hyn. Rwy’n gyfarwydd â rhai o’r modelau a ddisgrifiwyd gennych, ac rwyf wedi gofyn i swyddogion roi mwy o gyngor i mi, gan fy mod yn credu bod dysgu o arfer da o wledydd eraill yn rhywbeth y dylem fod yn gwbl awyddus i’w wneud—fel y byddwn yn gobeithio y gall gwledydd eraill edrych arnom ni mewn meysydd lle rydym yn perfformio’n dda hefyd.