<p>Sgrinio am Ganser</p>

Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:25 pm ar 1 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 3:25, 1 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Weinidog, caiff menywod sydd â risg uchel o gael canser yr ofari eu cynghori i gael eu hofarïau a’u tiwbiau ffalopaidd wedi’u tynnu gan nad oes rhaglen sgrinio ar gael ar hyn o bryd ar gyfer y clefyd yng Nghymru. Mae ymchwil a gyhoeddwyd yn y ‘Journal of Clinical Oncology’ yn dangos y gallai prawf gwaed—prawf gwaed syml—bob pedwar mis helpu i ganfod canser yr ofari’n gynharach, pan ddylai tiwmorau fod yn haws i’w trin a’u tynnu. Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i sicrhau bod profion gwaed rheolaidd ar gael i fenywod sydd â risg uchel o gael canser yr ofari yng Nghymru? Diolch.