3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru ar 1 Mawrth 2017.
3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau sgrinio am ganser yng Nghymru? OAQ(5)0134(HWS)
Mae gennym raglenni sgrinio sydd wedi’u sefydlu’n dda ar gyfer canser y fron, canser ceg y groth a chanser y coluddyn, gyda mwy na 400,000 o ddynion a menywod yn cael eu sgrinio’n rheolaidd bob blwyddyn. Daeth sgrinio canser y fron yn wasanaeth wedi’i ddigidoleiddio’n llawn yn 2012 ac yn ddiweddar rydym wedi cyhoeddi gwelliannau arfaethedig i’r profion a ddefnyddir ar gyfer sgrinio canser y coluddyn a chanser ceg y groth.
Diolch i chi am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Hoffwn gyfeirio’n benodol at sgrinio ceg y groth, os caf. Rwy’n credu ein bod i gyd yn cytuno ar fanteision diagnosis cynnar o ganser lle bynnag y bo hynny’n bosibl, ond mae hyn hefyd yn codi cwestiwn ynglŷn â’r oed priodol y dylai sgrinio penodol ddechrau. Nid wyf yn gwybod ai fi yw’r unig un sy’n cael etholwyr yn dod ataf i alw am newid y drefn sgrinio ceg y groth i fenywod yn ôl i sgrinio’n 20 oed, ond yn sicr mae pobl wedi bod yn cysylltu â mi ar hyd y llinellau hynny.
Rwy’n ymwybodol, wrth gwrs, fod y penderfyniad i godi’r oedran o 20 i 25 oed yn 2013 yn seiliedig ar arweiniad gan bwyllgor sgrinio cenedlaethol y DU, a oedd nid yn unig yn cwestiynu manteision sgrinio cynnar ond hefyd yn amlygu peth o’r niwed posibl yn sgil sgrinio rheolaidd i fenywod o dan 25 oed. Yn y cyd-destun hwnnw, cafodd y broses o gyflwyno’r brechlyn HPV i ferched ysgol rhwng 12 a 13 oed groeso mawr, fel y cafodd y profion sylfaenol ar gyfer HPV yn rhan o’r broses sgrinio.
Fodd bynnag, mae fy mhrif bryder mewn perthynas â sgrinio canser ceg y groth yn ymwneud â’r gostyngiad bychan yn y ganran o fenywod sy’n dod i gael eu sgrinio. Yn benodol, mae’n amlwg yn is mewn ardaloedd difreintiedig. A fuasai’r Gweinidog yn cytuno, ochr yn ochr â’r newidiadau a welwn mewn sgrinio am ganser ceg y groth, fod angen sicrhau bod yna rôl allweddol i Lywodraeth Cymru a phob darparwr gofal iechyd, nid yn unig i chwarae eu rhan yn codi ymwybyddiaeth cleifion o’r darpariaethau sgrinio, ond hefyd o ran gweithredu yr hyn yr oedd NICE yn ei alw’n drothwy amheuaeth isel wrth ystyried atgyfeiriadau ar gyfer profion? Dyna’r trothwy lle y bydd meddyg teulu neu ddarparwr iechyd, yn seiliedig ar symptomau, yn penderfynu atgyfeirio’r claf i gael profion pellach.
Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw. Cytunaf yn llwyr â chi, yn amlwg, fod canfod canser yn gynnar yn hanfodol, am ei fod yn caniatáu ar gyfer cyfuniad o driniaethau mwy effeithiol a llai dwys i’r unigolyn ac yn amlwg, y canlyniadau gwell y byddai hynny’n arwain atynt.
Yn ogystal â’r rhaglenni sgrinio, mae’n bwysig fod y canllawiau NICE 2015 ar gyfer canfod ac atgyfeirio achosion lle y ceir amheuaeth o ganser yn rhan annatod o ymarfer clinigol er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth iechyd yn canfod mwy o ganserau’n gynnar. Rwy’n cytuno â chi yn hynny o beth. Rydym wedi datblygu rhaglen gymorth ar gyfer gofal sylfaenol, mewn partneriaeth â Macmillan, a elwir yn fframwaith ar gyfer canser ac mae’n cael ei weithredu drwy rwydwaith canser Cymru. Mae yna ddarpariaethau hefyd yn y contract meddyg teulu i gefnogi dysgu seiliedig ar ymarfer a gwaith pellach drwy’r rhwydwaith canser i gefnogi mynediad gwell at brofion.
Fe gyfeirioch at argymhelliad pwyllgor sgrinio cenedlaethol y DU 2012 ar roi’r gorau i sgrinio ceg y groth ar gyfer menywod rhwng 20 a 24 oed Fe fyddwch yn gwybod bod y pwyllgor sgrinio yn llais arbenigol, sy’n seilio ei benderfyniadau a’i gyngor i holl Weinidogion Llywodraeth y DU ar y dystiolaeth, ac mae’r dystiolaeth yn dangos nad yw sgrinio canser ceg y groth i fenywod dan 25 yn cynnig fawr ddim amddiffyniad gan fod annormaleddau’n gyffredin iawn yn y grŵp oedran hwn ac fel arfer yn hunangyfyngol. Ar ben hynny, mae canfod annormaleddau drwy sgrinio menywod o dan 25 yn arwain at or-drin sylweddol a gall hynny arwain at broblemau yn nes ymlaen gyda beichiogrwydd ac yn y blaen.
I fynd ymlaen at y pwynt a nodwyd gennych ynglŷn â’r gostyngiad bychan yn nifer y rhai sy’n cael eu sgrinio, sy’n peri pryder i bob un ohonom—ond yr hyn sy’n peri pryder arbennig yw’r anghyfartaledd yn y niferoedd. Gwyddom fod pobl mewn cymunedau mwy cefnog yn llawer mwy tebygol mewn gwirionedd o fanteisio ar ein holl raglenni sgrinio na’r rhai sy’n byw mewn cymunedau tlotach. Er mwyn i’n rhaglenni gyrraedd eu potensial, rhaid i ni sicrhau ein bod yn estyn allan at bob cymuned.
Felly, sut y gwnawn hynny? Rwy’n credu bod cyfuniad o godi ymwybyddiaeth, y cyfeirioch chi ato, a phrofion symlach a mwy ymarferol a haws yn bwysig hefyd, a dyna pam y bydd symud at brofion HPV ar gyfer canser ceg y groth a phrofion FIT ar gyfer canser y coluddyn mor bwysig yn hynny o beth hefyd. Mae gennym dîm ymgysylltu sgrinio yn Iechyd Cyhoeddus Cymru sy’n gweithio gyda thimau iechyd cyhoeddus, byrddau iechyd a gofal sylfaenol i gynyddu’r niferoedd sy’n cael eu sgrinio yn enwedig ymysg grwpiau anodd eu cyrraedd. Yn sicr, gallaf ysgrifennu at yr Aelod gyda rhai enghreifftiau o’r hyn sy’n digwydd yn ogystal.
Weinidog, caiff menywod sydd â risg uchel o gael canser yr ofari eu cynghori i gael eu hofarïau a’u tiwbiau ffalopaidd wedi’u tynnu gan nad oes rhaglen sgrinio ar gael ar hyn o bryd ar gyfer y clefyd yng Nghymru. Mae ymchwil a gyhoeddwyd yn y ‘Journal of Clinical Oncology’ yn dangos y gallai prawf gwaed—prawf gwaed syml—bob pedwar mis helpu i ganfod canser yr ofari’n gynharach, pan ddylai tiwmorau fod yn haws i’w trin a’u tynnu. Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i sicrhau bod profion gwaed rheolaidd ar gael i fenywod sydd â risg uchel o gael canser yr ofari yng Nghymru? Diolch.
Diolch i chi am y cwestiwn hwnnw. Mae hwn yn fater a drafodwyd gennym yn helaeth yn ddiweddar yn y Pwyllgor Deisebau. Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi cynhyrchu adroddiad yn seiliedig ar y dystiolaeth a gafodd gan y Llywodraeth, ond hefyd gan aelodau o’r cyhoedd a’r prif elusennau canser. Mewn gwirionedd nid oedd y prif elusennau canser o blaid cyflwyno’r sgrinio. Mae hwn yn un o’r achosion hynny lle y mae’n rhaid i chi gydbwyso’r risgiau a’r manteision, ac mae’r risgiau yn gorbwyso’r manteision yn yr achos hwn ar hyn o bryd yn ôl y dystiolaeth sydd gennym. Ond rydym wedi dweud y byddwn yn cadw llygad barcud ar y dystiolaeth sy’n dod i’r amlwg o’r DU ac ar draws y byd ar y mater penodol hwn.