Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:37 pm ar 1 Mawrth 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae gan fwrdd iechyd Prifysgol Abertawe a Bro Morgannwg niferoedd cyson o uchel o bobl sy’n aros mwy na 12 awr yn ei adrannau damweiniau ac achosion brys. Ym mis Ionawr gwelsom gyfanswm o 890 o bobl yn aros mwy na 12 awr yn y ddwy brif adran damweiniau ac achosion brys. Nid oedd ond 150 o bobl wedi aros cymaint â hynny o amser yn adran ddamweiniau ac achosion brys fwyaf Cymru. Ysgrifennydd y Cabinet, o ystyried bod PABM yn treialu gwasanaeth 111 i leihau presenoldeb amhriodol yn yr adrannau damweiniau ac achosion brys, sut y mae egluro niferoedd mor uchel? Gan Ysbyty Treforys y mae’r nifer uchaf o arosiadau 12 awr ar gyfer unrhyw adran damweiniau ac achosion brys yng Nghymru. Diolch.