3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru ar 1 Mawrth 2017.
5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am amseroedd aros ar gyfer damweiniau ac achosion brys yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(5)0128(HWS)
Diolch am y cwestiwn. Mae adrannau achosion brys yng Ngorllewin De Cymru wedi parhau i brofi pwysau a galw sylweddol drwy gydol y gaeaf hwn. Bydd yr Aelodau, wrth gwrs, yn cofio mai dyma ran o’r rheswm pam y ceir ymyrraeth wedi’i thargedu ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, oherwydd y diffyg cynnydd parhaus ym maes gofal heb ei drefnu. Gwelwyd rhywfaint o welliant o’i gymharu â’r gaeaf diwethaf, ond mae cynnydd pellach i’w wneud eto.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, ac rwy’n falch eich bod yn cydnabod y pryderon, ac yn gallu cadarnhau bod ymyrraeth yn digwydd bellach mewn gwirionedd. Mae gennyf gwestiwn ychydig yn wahanol i’w ofyn i chi, felly byddwch yn amyneddgar gyda mi ar hyn, oherwydd mae’n ymwneud â nyrsys ardal.
Mae’r Cynulliad, fel y gwyddoch, wedi cael tystiolaeth fod nifer y nyrsys ardal yng Nghymru wedi gostwng 40 y cant yn y pum mlynedd ddiwethaf, gydag ofnau y ceir colledion pellach. Ac mae’r gwaith y mae nyrsys ardal yn ei wneud yn sicrhau adferiad cleifion yn eu cartrefi eu hunain yn bendant yn rhan o gadw pobl allan o’r ysbyty, ac at hynny rwy’n dod ar hyn. Ni ddylai pethau fel cathetrau wedi blocio a chlwyfau heb eu gorchuddio ynddynt eu hunain fod yn rhesymau i bobl fynd i’r ysbyty mewn gwirionedd. Ond os nad ymdrinnir â hwy, fe ddont yn rhesymau dros fynd i’r ysbyty; gall y canlyniadau fod yn ddifrifol iawn, gan gynnwys pethau fel sepsis.
Felly, a allwch ddweud wrthym beth yw lefel y derbyniadau brys i ysbytai, yn Nhreforys, ac mewn mannau eraill, o ganlyniad i gyflyrau sydd wedi gwaethygu o ganlyniad i ddiffyg sylw cyson gan nyrsys ardal, ac effaith hynny wedyn ar amseroedd aros adrannau damweiniau ac achosion brys? Efallai y gallwch ddweud wrthym hefyd a fydd y cyllid newydd a gyhoeddwyd gennych ar gyfer staff nyrsio yn sicrhau y cynhelir y mathau o sgiliau sydd gan y nyrsys ardal yr ydym mewn perygl o’u colli. Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet.
Nid wyf yn gallu rhoi’r math o ddata rydych yn gofyn amdano heddiw—. Rwy’n credu ei fod yn ymarfer eithaf cymhleth i’w gyflawni. Fe welaf a yw’n bosibl gwneud hynny, ond mae gallu dweud ai her i’r gwasanaeth nyrsys ardal sydd wedi arwain at lefel derbyn i’r ysbyty sydd wedi arwain at her o ran amseroedd aros yn gofyn llawer yn fy marn i, pwy bynnag yw’r Gweinidog neu’r gweision sifil sydd ar gael iddynt.
Ond rwy’n cydnabod y pwynt, mewn gwirionedd, fod y gwasanaeth nyrsys ardal yn rhan bwysig o’r gofal sy’n mynd i gadw pobl yn eu cartrefi eu hunain, a chynnal lefel o annibyniaeth ar eu cyfer. Yn ddiweddar, cefais gyfle, gan wisgo fy het Aelod etholaeth, i fynd gydag aelodau o’r Coleg Nyrsio Brenhinol yn fy etholaeth i weld peth o’r amrywiaeth yn y gwasanaeth y maent yn ei ddarparu—a darpariaeth gofal iechyd eithaf cymhleth, mewn gwirionedd, o’i gymharu â’r hyn y gallech feddwl sy’n digwydd, gan gynnwys gofal diwedd oes, adferiad rhag anafiadau sylweddol, a’r bobl sy’n methu symud o gwmpas fel y byddent yn dymuno gwneud.
Felly, rwyf wedi gweld drosof fy hun y gwerth uniongyrchol y mae nyrsys ardal yn ei ddarparu, o ran adferiad, adsefydlu, ac atal hefyd. Ac rwy’n hapus i gadarnhau bod y buddsoddiad o £95 miliwn a gyhoeddais yn ddiweddar yn nyfodol hyfforddiant ac addysg gofal iechyd yn cynnwys cynnydd o 13 y cant ar gyfer hyfforddi nyrsys. Felly, rydym yn cydnabod gwerth nyrsys ardal, ac rydym yn cydnabod yr angen i barhau i gynyddu, nid yn unig i gymryd lle, ond i feddwl sut i gynyddu niferoedd nyrsys yn y meysydd lle y ceir galw penodol.
Pa gefnogaeth ychwanegol ydych chi’n ei gynnig i weinyddiaeth yr ysbyty yn Nhreforys i esgor ar welliant yn y trefniadau i ddelio efo’r nifer fawr o gleifion sy’n mynychu’r adran ddamweiniau yno?
Yn ddiweddar, ymwelais ag Ysbyty Treforys i gael cyflwyniad ar ystod o bynciau gwahanol, mewn gwirionedd, ond yn ystod yr ymweliad, manteisiais ar y cyfle i fynd i’r adran achosion brys. Ac roedd yn ddiddorol gweld bryd hynny, rwy’n meddwl, eu bod yn cydnabod bod rhai o’u trefniadau system mewnol eu hunain wedi gwella, ond hefyd maent bellach yn credu bod ganddynt well perthynas y tu allan i ddrws yr ysbyty, gyda datblygiad clystyrau gofal sylfaenol, ond yn bwysig hefyd o fewn y system ysbyty. Fe fyddwch yn gwybod o’ch amser eich hun yn y system iechyd, yn y lle hwn a’r tu allan, fod yna deimlad mewn rhai adrannau achosion brys nad ydynt wedi’u cysylltu’n briodol â gweddill yr ysbyty, fel pe bai’r problemau wrth ddrws yr ysbyty yn aros wrth ddrws yr ysbyty. Ac mewn gwirionedd, cafwyd lefel uwch o ddealltwriaeth ei bod yn system ysbyty cyfan a bod angen iddynt weld bod honno’n broblem iddynt hwy yn ogystal, gyda chysylltiad ag arbenigeddau eraill yn yr ysbyty i fynd â phobl allan o’r adran achosion brys ac yn ôl i’r ysbyty lle y byddant angen gofal a thriniaeth briodol.
Ac mae hefyd yn ymwneud â’r gwelliannau i achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal. Yn benodol, yn awdurdod lleol Abertawe, cafwyd rhai heriau gwirioneddol gyda rhai o’r lleoedd gofal sydd ar gael y tu allan i’r ysbyty, ond rydym wedi gweld rhywfaint o welliant. Felly, caf fy nghalonogi gan y ffaith fod yr her wedi’i chydnabod, ac nad her gofal eilaidd yn unig ydyw—mae’n her i’r gwasanaeth iechyd cyfan, ond hefyd, mae’n her iechyd a gofal hefyd. Ac wrth gwrs, yn dilyn y buddsoddiad o £50 miliwn rydym wedi’i ddarparu, fe fyddwch yn gwybod hefyd fod rhan y bwrdd iechyd o hynny dros £9 miliwn. Felly, ceir cefnogaeth go iawn o ran arian, yn ogystal ag arbenigedd, a pheth o’r rhannu sy’n digwydd mewn gwirionedd rhwng byrddau iechyd gwahanol ynglŷn â’r systemau a’r prosesau llwyddiannus sydd ganddynt. Felly, mae yna amrywiaeth o wahanol gamau gweithredu. Disgwyliaf weld y gwelliant hwnnw, ac edrychaf ymlaen at barhau’r sgwrs gyda chi ac Aelodau eraill i weld ble y mae hynny’n mynd i ddigwydd mewn gwirionedd.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae gan fwrdd iechyd Prifysgol Abertawe a Bro Morgannwg niferoedd cyson o uchel o bobl sy’n aros mwy na 12 awr yn ei adrannau damweiniau ac achosion brys. Ym mis Ionawr gwelsom gyfanswm o 890 o bobl yn aros mwy na 12 awr yn y ddwy brif adran damweiniau ac achosion brys. Nid oedd ond 150 o bobl wedi aros cymaint â hynny o amser yn adran ddamweiniau ac achosion brys fwyaf Cymru. Ysgrifennydd y Cabinet, o ystyried bod PABM yn treialu gwasanaeth 111 i leihau presenoldeb amhriodol yn yr adrannau damweiniau ac achosion brys, sut y mae egluro niferoedd mor uchel? Gan Ysbyty Treforys y mae’r nifer uchaf o arosiadau 12 awr ar gyfer unrhyw adran damweiniau ac achosion brys yng Nghymru. Diolch.
Ac mae’r rheini’n rhan o’r heriau a gyflwynais i’r bwrdd iechyd ac o fewn y gwasanaeth. Ac mae’n wir fod pobl yn siarad â’i gilydd ar draws y gwasanaeth. Mae meddygon ymgynghorol adrannau brys yn siarad â’i gilydd, ac mae nyrsys arwain yn siarad â’i gilydd ynglŷn â’r ymarfer yn eu hadrannau. Felly, ceir ymgais wirioneddol i rannu dysgu. Ond rydych yn gywir—mae gan ysbyty’r Mynydd Bychan gyfran sylweddol is o bobl yn aros mwy na 12 awr i gael eu gweld, eu trin a’u rhyddhau. Dyna ran o’r her y credaf fy mod wedi’i chydnabod yn fy ymateb i Dai Lloyd, mewn gwirionedd, ynglŷn â chydnabod ei bod yn broblem system gyfan o fewn y system ysbyty cyfan, yn ogystal â thu allan iddo. Ac os nad ydych yn gallu mynd i’r afael â rhai o’r heriau o ran gallu symud pobl, nid yn unig i adran achosion brys, ond drwy’rr adran honno, a naill ai allan o’r ysbyty yn gyfan gwbl, neu i mewn i’r ysbyty, os mai dyna’r lle priodol ar eu cyfer, dyna ran o’r rheswm pam y mae rhai pobl yn aros yn rhy hir. Ac rwy’n cydnabod bod gormod o bobl yn aros yn rhy hir. Ac nid wyf erioed wedi ceisio bychanu hynny, neu gelu hynny.
Mae’n ymwneud mewn gwirionedd â hyn: a fyddwn yn gweld cynnydd pendant yn y gallu i gyflawni yn y bwrdd iechyd hwn, ac mewn byrddau iechyd eraill, er mwyn sicrhau bod llai o bobl yn aros 12 awr i gael eu gweld, eu trin a’u rhyddhau, a sut yr adeiladwn ar dreial llwyddiannus 111? Mae wedi bod yn ddatblygiad llwyddiannus iawn, ac unwaith eto, o’i gymharu â’r hyn a ddigwyddodd yn Lloegr, lle y cawsant heriau gwirioneddol gyda 111 yn arwain at nifer fwy o bobl yn cael eu hatgyfeirio at adrannau achosion brys, nid yw hynny wedi digwydd. A cheir tystiolaeth dda fod 111 mewn gwirionedd yn cyfeirio pobl i ffwrdd o’r adran honno drwy ddarparu llwybrau gofal amgen ar eu cyfer. Felly, mae yna bethau cadarnhaol o fewn y system gyfan, ac mae’r Llywodraeth hon, neu’r gwasanaeth iechyd, yn deall bod heriau parhaus o hyd a gwelliannau pellach y mae pob un ohonom yn disgwyl eu gweld yn digwydd.