Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:39 pm ar 1 Mawrth 2017.
Diolch am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £1.2 miliwn ar ddarparu Skype for Business ar gyfer y GIG. Gellir cynnal ymgyngoriadau â’r dechnoleg hon pan fydd y claf a’r gweithiwr iechyd proffesiynol yn fodlon i wneud hynny, er y gall fod achosion pan fydd angen i’r gweithiwr iechyd proffesiynol gynnal ymgynghoriad wyneb yn wyneb neu archwiliad corfforol yn dilyn ymgynghoriad.