Part of the debate – Senedd Cymru am 4:58 pm ar 1 Mawrth 2017.
Wel, mewn gwirionedd, roeddwn am roi golwg galonogol iawn o ddyfodol Cymru a sut y gallwn, er yr holl ryfeddodau a gyflawnwyd gennym yn y gorffennol fel athrawon a phregethwyr, ddod yn genedl o wyddonwyr a thechnolegwyr a symud ein cenedl ymlaen. Rwy’n meddwl fy mod am ein disgrifio fel cenedl ynni. Mae un o’r cerddi ecolegol cynharaf yn yr iaith Gymraeg, ‘Torri Coed Glyn Cynon’, yn sôn am dorri coed cwm Cynon er mwyn bwydo’r chwyldro diwydiannol cynnar, gwaith haearn canoloesol y cyfnod hwnnw. Felly, rydym wedi bod yn genedl ynni ers amser maith.
Ond y cwestiwn sy’n rhaid i ni ei wynebu yn awr yw hwn: sut y gallwn fod yn genedl ynni unwaith eto a sut y gallwn ddod yn Galiffornia yr Iwerydd? Oherwydd mae gennym y traethau, mae gennym ewyn y don, mae gennym y stiwdios ffilm, mae gan rai ohonom gyrff ar gyfer y traeth—[Chwerthin.] Yn bendant. Gallaf weld Ysgrifennydd y Cabinet dros gymunedau yn nodio’i ben ar hynny. Ond yn bwysicach, mae gennym brifysgolion, mae gennym ymchwil, mae gennym hanes o ddatblygiad technolegol y cyfeiriwyd ato eisoes mewn sawl cyfraniad, ac mae gennym adnoddau ynni enfawr o hyd, nid o dan y ddaear mwyach—nid o dan y ddaear mwyach mewn modd diogel a chynaliadwy, beth bynnag—ond yn ein moroedd, yn ein hawyr, ar ein bryniau ac yn yr haul. Dyna sut y cyplyswn ein dealltwriaeth ddiweddaraf o dechnoleg â heriau pethau fel newid yn yr hinsawdd a heriau diogelwch ynni y credaf y byddant yn darparu pwynt gwerthu unigryw i Gymru dros y cenedlaethau nesaf, ac rwy’n meddwl y bydd yn gwneud Cymru yn wlad fach lwyddiannus, pa un a fyddwn yn ymlafnio o hyd o dan ddatganoli neu’n dod yn genedl annibynnol.
Gallwn adeiladu ar rai o’r blociau adeiladu hynny eisoes ac rwy’n meddwl y byddai pob un ohonom am weld Cymru’n dod mor hunangynhaliol â phosibl o ran ein defnydd o ynni, o ran ein heconomi, o ran y ffordd y datblygwn ein sgiliau ein hunain a’n pobl ein hunain, boed mewn meddygaeth neu mewn technoleg neu yn y maes addysg. Ac rydym ymhell ar ei hôl hi. Mae’r Alban eisoes yn cynhyrchu, er enghraifft, 32 y cant o’i thrydan o ffynonellau adnewyddadwy. Rydym ni ar 10 y cant. Un o’r gwledydd sydd â’r adnoddau adnewyddadwy mwyaf cyfoethog yn y môr ac ar y tir yw un o’r rhai sy’n llusgo ar ôl y Deyrnas Unedig o ran cynhyrchu mewn gwirionedd. Ers y 1970au cynnar, rydym wedi cael rhyw fath o chwyldro bach arall yng Nghymru, oherwydd mae Cymru yn genedl o naratifau gwleidyddol sy’n cystadlu. Un o’r naratifau diddorol a ddigwyddodd yn y 1970au yng Nghymru yw’r cysyniad o’r wlad fach, y genedl fach—pobl yn dod i Gymru i geisio bod yn hunangynhaliol, yn byw ar y tir, rhai syniadau gwallgof a rhai ffyrdd gwallgof o fyw o bryd i’w gilydd, ond yn arwain at syniadau, fel y dywedais, am dechnoleg amgen ac ailwerthusiad go iawn o’r modd yr ydym yn cynhyrchu ein hynni a sut yr ydym yn symud ymlaen. Felly, rydym ar fin newid ar hyn o bryd. Mae’n dal i fod gennym allyriadau nitrogen ocsid gwenwynig iawn o orsafoedd pŵer sy’n llosgi glo. Mae’n dal i fod gennym hen dechnoleg. Mae gennym hen gysylltiadau cyfathrebu a hen gridiau ynni sy’n ein dal yn ôl mewn gwirionedd rhag y dyfodol ynni newydd hwn. Ond hefyd mae gennym sgiliau a syniadau i’w wneud. Rwy’n credu ei fod yn ymwneud â thri pheth yr hoffwn ein gweld yn eu gwneud yma yng Nghymru yn fuan iawn.
Yn gyntaf oll, hoffwn i ni archwilio sut y gallwn sefydlu cwmni ynni i Gymru. Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi cynhesu at y syniad hwn, a darddodd gyda Phlaid Cymru, ac rwy’n gobeithio y gallwn weithio gyda Llywodraeth Cymru ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn ceisio archwilio’r gallu i sefydlu cwmni ynni i Gymru. Felly, byddwn yn gwneud y defnydd gorau ac yn cadw’r sgiliau a’r adnoddau hynny yn ein gwlad.
Ail beth y credaf y gallem edrych arno o ddifrif yng Nghymru yw hydrogen. Mae’r Gyngres yn America yn dathlu diwrnod y gell hydrogen. Pam y maent yn dathlu diwrnod y gell hydrogen? Am eu bod yn dweud mai hwy a gynhyrchodd economi’r gell hydrogen—yn enwedig yng Nghaliffornia, fel y mae’n digwydd. Tarddodd yn 1838, yma yn Abertawe—yn Abertawe, gyda William Grove, athrylith digamsyniol, os edrychwch ar ei hanes: bargyfreithiwr a ddaeth yn wyddonydd, a gwyddonydd blaenllaw ar hynny, a datblygodd dechnoleg celloedd hydrogen sy’n dal, mewn egwyddor, i fod yr hyn a all yrru ein trenau, ein trafnidiaeth gyhoeddus, ein cerbydau masnachol yn awr, ac efallai’n fwy o ran y cerbydau preifat a cheir preifat, gan edrych ar ble rydym yn datblygu seilwaith o gwmpas ceir trydan a cherbydau trydan. Mae’r ddau’n mynd yn dda iawn gyda’i gilydd. Mae’r technolegau hyn—cerbydau trydan a thechnoleg hydrogen—yn mynd yn dda iawn gyda’i gilydd gydag ynni adnewyddadwy, oherwydd mae’n system storio y gallwch ei defnyddio yn eich system drafnidiaeth sy’n helpu i lyfnhau’r anamleddau a gawn, yn enwedig mewn ynni adnewyddadwy, a chyda gwynt yn arbennig.
Ond wrth gwrs, cyfeiriwyd eisoes at y peth arall y gallwn ei wneud—y trydydd peth, sef y morlyn llanw. Felly, rydym yn troi at Abertawe unwaith eto, ac yn lle colli’r dechnoleg a darddodd o Abertawe a chyrraedd Califfornia, fel y gwnaethom 150 mlynedd yn ôl, gadewch i ni wneud yn siŵr nad ydym yn colli’r dechnoleg hon y gellir ei threialu yn Abertawe ar ffurf prosiect braenaru, fel yr argymhellwyd gan adolygiad Hendry, a’i bod yn dod yn dechnoleg yr ydym yn ei datblygu yn awr ac yn dysgu oddi wrthi, ac yn defnyddio’r sgiliau ohoni.
Felly, i gloi, fel sy’n draddodiadol ar y diwrnod hwn, gyda rhai o eiriau Dewi Sant, pan ddywedodd wrthym, ‘gwnewch y pethau bychain mewn bywyd’, a dweud mai rwtsh llwyr yw hynny. Fel y bydd pobl Califfornia’n dweud, peidiwch â chwysu dros y pethau bychain. Gadewch i ni wneud y pethau mawr—gadewch i ni wneud y môr-lynnoedd llanw, yr hydrogen a’r trydan.