Part of the debate – Senedd Cymru am 4:52 pm ar 1 Mawrth 2017.
Wel, rwy’n hapus iawn i gefnogi’r cynnig hwn gan Blaid Cymru heddiw, a bydd fy mhlaid yn pleidleisio drosto. Rwy’n gobeithio y bydd hynny’n arwain at fonllef o lawenydd digymell ar feinciau Plaid Cymru. Rwy’n mynd i fod yn gydsyniol heddiw mewn ffordd ychydig yn wahanol i ddoe, gan mai heddiw yw ein diwrnod cenedlaethol. Er efallai nad yw neges Dewi Sant at ddant pawb ohonom yn llwyr, gan mai rheol fynachaidd Dewi Sant oedd y dylai’r mynachod dynnu’r aradr heb anifeiliaid gwedd, yfed dim heblaw dŵr, bwyta dim ond bara gyda halen a pherlysiau, a threulio eu nosweithiau’n gweddïo, yn darllen neu’n ysgrifennu, a byw heb eiddo personol. Felly, byddai Cymru’n lle asgetig iawn pe baem yn dilyn y cyfarwyddebau hynny i’r llythyren.
Rwy’n cytuno â phopeth a ddywedodd Rhun ap Iorwerth wrth agor ei ddadl heddiw, ac mae’n iawn, rwy’n meddwl, i edrych yn ôl ar hanes Cymru a’r hyn yr ydym wedi’i roi i’r byd. Rwy’n drist i ddweud bod yr hanes wedi bod yn wahanol braidd yn ystod fy oes, yn gymharol o leiaf: rydym wedi bod yn genedl sy’n dirywio’n economaidd er ei bod, fel rwy’n cydnabod yn llawn ac yn gorfoleddu yn ei gylch yn wir, yn genedl sydd wedi tyfu’n ddiwylliannol ac o ran y teimlad o genedligrwydd. Er fy mod yn credu’n gryf yn y Deyrnas Unedig, rwy’n teimlo fy mod hefyd yn Gymro balch, ac rwy’n meddwl y gall rhywun gael dau fath o genedligrwydd ochr yn ochr â’i gilydd. Byddwn yn dweud hefyd pe bai Cymru yn dod yn genedl annibynnol yn wleidyddol, nid oes unrhyw reswm o gwbl pam na allai fod yn un o’r gwledydd mwyaf llwyddiannus yn y byd, oherwydd nid yw maint yn bopeth yn hyn o beth. [Torri ar draws.] Nid yw Singapore, er enghraifft, yn fwy na brycheuyn bach yn y môr, ac mae’r cyfan yn dibynnu ar—[Torri ar draws.] Mae’r cyfan yn dibynnu ar y math o economi y gellir ei datblygu, sydd, wrth gwrs, yn dibynnu ar yr amgylchedd gwleidyddol. Yn anffodus, yn ôl maniffesto presennol Plaid Cymru, byddai’n annhebygol o ailadrodd llwyddiant Singapore.
Ond mae cynnig Plaid Cymru heddiw yn hollol iawn i dynnu sylw at ddirywiad cymharol Cymru yn y blynyddoedd diwethaf, yn economaidd. Dim ond 71 y cant o werth ychwanegol gros y Deyrnas Unedig sydd gan Gymru. Mae hynny’n cymharu â 93 y cant yn yr Alban, ac mae Gogledd Iwerddon, a oedd yn flaenorol, 20 mlynedd yn ôl, yn is na Chymru ar y tabl, yn uwch na ni heddiw. Rydym ar waelod y tabl. Felly, rydym wedi cael 20 mlynedd o ddirywiad, yn anffodus, o dan Lywodraeth Lafur yma yng Nghaerdydd a Llywodraeth Lafur yn Llundain hefyd am y rhan fwyaf o’r amser hwnnw. Yn fy rhanbarth i, gorllewin Cymru a’r Cymoedd, nid yw ond yn 63.3 y cant o werth ychwanegol gros y Deyrnas Unedig mewn gwirionedd, sydd hyd yn oed yn waeth.
Er fy mod wedi cael fy nifrïo gan y Prif Weinidog ac eraill am fod wedi bod yn Weinidog mewn Llywodraethau Ceidwadol yn y 1980au a’r 1990au, mewn gwirionedd, yn 1989, roedd gan Gymru 89 y cant o werth ychwanegol gros y Deyrnas Unedig, ac felly rydym wedi mynd yn ôl o 89 y cant i 71 y cant o dan y rhai a fu’n fflangellu Thatcheriaeth y 1980au. Felly, bob blwyddyn ers 1996, mae Cymru naill ai wedi aros yn ei hunfan neu wedi llithro’n is i lawr y tabl. Felly, mae’n hanes o ddigalondid diymgeledd, mae arnaf ofn, a methiant.
Ond wrth edrych tua’r dyfodol, nid yw’r dyfodol yn perthyn i’r Llywodraeth mewn gwirionedd. Ni all Llywodraethau wneud mwy dros bobl nag y gallant ei wneud drostynt eu hunain. Gallant effeithio ar yr amgylchedd lle y mae pobl yn byw ac yn gweithio, wrth gwrs. Ond rydym wedi bod yn ymdopi, ar hyd fy oes, gyda dirywiad y diwydiannau echdynnu a gweithgynhyrchu mawr, dirywiad na ellid ei wrthdroi mewn gwirionedd, er y gellid ei arafu, a heddiw rydym wedi bod yn trafod problemau presennol Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Lle y mae gennym gyflogwyr mawr sy’n dominyddu mewn un maes, rydym mewn perygl, wrth gwrs, yn sgil newidiadau mawr yn y galw neu’r amodau byd-eang. Rhaid i’r dyfodol fod yn seiliedig ar hyrwyddo menter gyda busnesau bach, fel yr oedd Paul Davies yn ei nodi yn ei araith, a hefyd gyda thechnolegau’r dyfodol.
Heddiw, ar y dudalen flaen ‘The Times’, ceir stori ynglŷn â sut y mae Syr James Dyson yn mynd i ariannu campws technoleg newydd, wrth gyffordd 17 ar yr M4. Mae ef ei hun yn byw wrth gyffordd 16 ar yr M4. Mae hyn lai nag awr o Gaerdydd, ac eto ble mae’r pethau cyfatebol yng Nghymru? Dyma’r math o ddiwydiannau’r dyfodol y dylai’r Llywodraeth fod yn eu hannog ac yn gwneud ei gorau i’w denu a’u cefnogi. Felly, gadewch i ni orfoleddu yn ein gorffennol yn wir, ond gadewch i ni gael Llywodraeth a fydd yn creu dyfodol lle y gall cenedlaethau’r dyfodol orfoleddu wrth edrych yn ôl.