9. 8. Dadl Fer: Cyfoethogi Bywydau Gofalwyr: Gofalu am y rhai sy'n Gofalu

– Senedd Cymru am 6:18 pm ar 1 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:18, 1 Mawrth 2017

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r ddadl fer. I’r rhai ohonoch chi sy’n gadael—

Those of you leaving, will you do so quietly and quickly? I emphasise ‘quietly’.

Rydw i’n galw, felly, ar Jayne Bryant i gyflwyno’r ddadl—Jayne Bryant.

Photo of Jayne Bryant Jayne Bryant Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Diolch. Rwy’n falch o allu trafod mater gofalwyr yn y Siambr heddiw. Rwy’n arbennig o falch o gael y ddadl fer ar Ddydd Gŵyl Dewi ac ar fater y credaf ei fod mor hanfodol i’n cymdeithas. Rwyf wedi cytuno i roi munud o’r amser a neilltuwyd i fy nghyd-Aelodau Joyce Watson, Julie Morgan, a Hannah Blythyn.

Un o’r breintiau mawr o fod yn gynrychiolydd etholedig yw’r cyfle i gyfarfod â phobl a siarad â hwy am eu profiadau, eu gobeithion a’u syniadau. Ers cael fy ethol, mae wedi fy nharo cymaint o bobl yng Nghymru sy’n gofalu am anwyliaid o bob oedran, am wahanol aelodau o’r teulu, ac ar wahanol gyfnodau yn eu bywydau. Dywedwyd bod yna bedwar math o bobl: y rhai sydd wedi gofalu am rywun, y rhai sydd yn gofalu am rywun, y rhai a fydd yn gofalu am rywun, a’r rhai a fydd yn cael gofal. Rwy’n credu bod hynny’n crynhoi pwysigrwydd y mater hwn.

Gyda phoblogaeth hŷn sy’n tyfu, gydag anghenion gofal cymhleth yn aml, mae’n anochel bod angen mwy o ofalwyr. Eisoes yn 2017, amcangyfrifodd Carers UK y bydd nifer y bobl hŷn sydd angen gofal yn fwy na nifer yr aelodau teuluol a fydd yn gallu diwallu eu hangenion.

Daeth Suzy Davies i’r Gadair.

Photo of Jayne Bryant Jayne Bryant Labour 6:18, 1 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Mae’n anodd cael ffigur cyfredol cywir o nifer y bobl sy’n gofalu am anwyliaid. Ni fyddai llawer yn diffinio eu hunain fel gofalwyr, dim ond ei ystyried yn rhywbeth y bydd rhywun yn ei wneud. Yng Nghymru, amcangyfrifir bod 400,000 o ofalwyr di-dâl, sef y gyfran uchaf yn y DU. Amcangyfrifir bod 22,000 o ofalwyr yn fy ninas i, sef Casnewydd. Mae llawer o’r bobl hyn yn perthyn i gategori’r ‘genhedlaeth frechdan’, y bobl sy’n gofalu am fwy nag un genhedlaeth—rhieni oedrannus, plant sy’n oedolion ac wyrion—ar adeg yn eu bywydau y mae disgwyl iddynt ddal i fod yn gweithio, neu’n mwynhau eu hymddeoliad. Amcangyfrifir bod gofalwyr di-dâl yng Nghymru yn darparu 96 y cant o’r holl wasanaethau gofal yn y gymuned, ac amcangyfrifodd Gofalwyr Cymru eu bod yn arbed £8.1 biliwn i economi Cymru bob blwyddyn. Maent yn weithlu di-dâl sy’n sail i’n GIG a’n system gofal cymdeithasol, ac nid oes amheuaeth na allem wneud hebddynt.

Rwy’n credu ei bod yn ddyletswydd arnom i arwain y ffordd drwy amddiffyn a chefnogi gofalwyr. Mae’n bwysig nodi bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi rhoi camau anhygoel ar waith. Yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2015, am y tro cyntaf rhoddir yr un hawliau i ofalwyr â’r rhai y maent yn gofalu amdanynt. Mae hwn yn gyfle gwych i gefnogi ein gofalwyr, ond heddiw rwyf am ganolbwyntio ar bobl hŷn sy’n gofalu, a beth sy’n digwydd ar ôl i’w hamser fel gofalwyr ddod i ben. Yn benodol, sut rydym yn cefnogi ein gofalwyr ar adeg pan fyddant yn teimlo’n ynysig ac fel pe baent wedi colli eu hunaniaeth? Mae angen i ni gydnabod yr effaith y mae gofalu’n ei chael ar iechyd rhywun, eu rhagolygon yn y dyfodol, a phwysigrwydd seibiant. Mae’n rhaid i ni gydnabod yr arbenigedd unigryw sydd gan ofalwyr, a pha mor werthfawr ydynt i’n cymuned a’n cymdeithas, ac yn bwysig, mae angen i ni feddwl sut y gallwn harneisio’r sgiliau hyn, a pharatoi gofalwyr ar gyfer y dyfodol, er mwyn sicrhau nad oes neb yn cael eu gadael ar ôl.

Mae’n deimlad cyffredin, ar ôl gofalu am gyfnod estynedig, fod llawer o ofalwyr yn teimlo fel pe baent wedi colli eu hunaniaeth. Mae profiad un o fy etholwyr yn dangos hyn. Yn y digwyddiad gwybodaeth i bobl dros 50 oed yng Nghasnewydd y llynedd, cyfarfûm â menyw a oedd wedi bod yn ofalwr amser llawn. Rhoddodd ei bywyd ar ôl gadael yr ysgol i ofalu am ei mam, ac yna ar ôl hynny ei gŵr. Pan gyfarfûm â hi, yn anffodus, roedd y ddau aelod annwyl o’i theulu wedi marw. Teimlai fel pe na bai ganddi ddim. Fel gofalwr amser llawn roedd hi’n ei chael yn anodd cynnal bywyd cymdeithasol, ac nid oedd erioed wedi gallu dechrau ei gyrfa ei hun. Ar ôl treulio’r rhan fwyaf o’i hoes yn gofalu am anwyliaid a oedd yn dibynnu’n gyfan gwbl arni, roedd bod yn ofalwr yn ei diffinio. Pan fu farw’r rhai roedd hi’n gofalu amdanynt, teimlai nad oedd iddi unrhyw bwrpas. Yn 55 oed, roedd hi’n iach ac yn awyddus i fod yn weithgar yn y gymdeithas, ond heb unrhyw ffordd o ddefnyddio’r sgiliau roedd hi wedi’u meithrin. Dyma un enghraifft yn unig o filoedd lawer o bobl sydd, ar ôl gwneud rhywbeth y credaf y dylwn ei werthfawrogi’n helaeth fel cymdeithas, yn teimlo eu bod wedi’u gadael ar ôl heb fawr i edrych ymlaen ato yn y dyfodol.

Gall yr effaith y gall gofalu ei chael ar iechyd corfforol a meddyliol fod yn wanychol a hirsefydlog. Gall hyn fod yn arbennig o niweidiol i ofalwyr hŷn. Mae cyflyrau fel arthritis, pwysedd gwaed uchel a phroblemau cefn yn gyffredin ymysg gofalwyr hŷn, ac os cânt eu gadael heb gefnogaeth gywir, gall y broses gorfforol o ofalu waethygu hyn ymhellach. Gall gofalwyr deimlo’n flinedig yn feddyliol, sy’n cael ei waethygu’n aml drwy boeni, pryder, a diffyg cwsg a achosir gan heriau gofalu. Mewn arolwg o ofalwyr hŷn a gynhaliwyd gan Age UK, dywedodd 75 y cant o’r rhai rhwng 60 a 69 oed fod gofalu yn effeithio’n negyddol ar eu hiechyd meddwl. Nid ydym am weld unrhyw un mewn sefyllfa lle y maent yn aberthu eu hiechyd eu hunain, ac os yw iechyd y gofalwr yn methu yna mae’n aml yn rhoi’r sawl sy’n cael gofal mewn sefyllfa argyfyngus.

Mae modd dangos effaith gorfforol a meddyliol gofalu drwy hanes un arall fy etholwyr a oedd yn gweithio dramor fel athrawes ysgol uwchradd pan ddaeth adref i ofalu am ei mam 85 oed sydd â dementia. Roedd ei thad 86 oed wedi gofalu am ei wraig cyn hynny nes iddo gwympo a thorri ei asennau. Yn anffodus, bu ei thad farw. Rhoddodd fy etholwr y gorau i’w swydd, symud at ei mam a dod yn ofalwr amser llawn. Effeithiodd heriau corfforol gofalu arni, a dechreuodd golli ei hyder a mynd yn ynysig, ac roedd yn ei chael yn anodd cymryd rhan mewn digwyddiadau cymdeithasol gan y byddai angen iddi dalu rhywun i edrych ar ôl ei mam. Er ei bod yn cael peth gwasanaeth gofalwyr ar rai dyddiau, ychydig iawn o seibiant a gâi. Nid oedd ei mam yn cysgu oherwydd y dementia, a oedd yn golygu bod y ddwy ohonynt yn effro drwy’r nos, gan ei gwneud yn hynod o anodd ymdopi. Bu farw mam fy etholwr yn union cyn ei phen-blwydd yn 90 oed, ar ôl bron i bum mlynedd o gael gofal amser llawn. Cynyddodd ei harwahanrwydd wrth i weithwyr gofal roi’r gorau i ymweld; roedd y tŷ yn wag. Bellach, nid oedd ganddi dasgau gofalu a daeth ei lwfans i ben. Roedd disgwyl iddi fynd ar lwfans ceisio gwaith. Newidiodd bod yn ofalwr amser llawn fywyd fy etholwr. Ar ôl gyrfa lwyddiannus fel athrawes, teimlai nad oedd unrhyw ffordd o fynd yn ôl ar lwybr gyrfa eto oherwydd ei hoedran. Roedd hi wedi ymgeisio am nifer o swyddi, ond yn aflwyddiannus, ac mae hyn yn dorcalonnus, gan iddi roi’r gorau i yrfa ddisglair i ofalu am ei mam pan oedd hi fwyaf o’i hangen. Unwaith eto, un enghraifft yn unig o blith nifer yw hon.

Mae gofalwyr yn gwybod pa mor bwysig yw gofal seibiant. Gall fod yn achubiaeth i roi gofod ac amser i ofalwyr allu parhau i ofalu amdanynt yn eu cartref eu hunain. Mae’n gam mawr i lawer o bobl i deimlo eu bod yn gallu gadael eu hanwyliaid gyda rhywun arall, ond ar ôl cymryd y cam cyntaf, mae’n ffordd hanfodol o gefnogi’r gofalwr. Ni all gofal seibiant fod yn ateb un model sy’n addas i bawb. Rhaid edrych ar ffurfiau hyblyg o seibiant i sicrhau ei fod yn gweithio ar gyfer pob gofalwr a sefyllfa unigol.

Rwyf hefyd yn credu ei bod yn bwysig i ni wneud popeth a allwn i gynorthwyo’r rhai sydd â chyfrifoldeb gofalu i aros yn eu swyddi cyhyd ag y bo modd. Rhaid edrych ar fentrau i wobrwyo cyflogwyr sy’n cefnogi gofalwyr ac yn cydnabod pwysigrwydd cadw aelodau staff profiadol.

Yn fy etholaeth i, mae bwrdd iechyd Aneurin Bevan wedi lansio menter newydd, Ffrind i Mi, sy’n chwilio am wirfoddolwyr i baru gydag unrhyw un sy’n teimlo’n unig ac yn ynysig. Y syniad yw dweud, ‘Gadewch i mi eich cyflwyno i ffrind i mi’. Gan weithio gyda chysylltwyr cymunedol Cyngor Dinas Casnewydd a gwasanaethau cyfeillio eraill, maent am gyrraedd cymaint o bobl ag y bo modd. Gall mentrau fel y rhain wneud gwahaniaeth enfawr i ofalwyr, a allai fod wedi’u hynysu.

Yn awr, yn fwy nag erioed, mae’n hanfodol ein bod yn harneisio arbenigedd y gofalwyr medrus hyn, gan ddarparu ar gyfer gofalwyr ar yr un pryd pan fydd y rhai y maent wedi bod yn gofalu amdanynt yn marw. Datblygodd y Brifysgol Agored yng Nghymru gwrs ar-lein rhad ac am ddim y llynedd a gynlluniwyd yn benodol ar gyfer gofalwyr, cwrs o’r enw ‘What about me?’ Pwynt y cwrs oedd helpu gofalwyr i nodi’r sgiliau sydd ganddynt a’u helpu i ddychwelyd at addysg neu gyflogaeth. Unwaith eto, mae hyn yn rhywbeth y teimlaf fod angen ei gefnogi a’i hyrwyddo. Yn wir, rwy’n teimlo bod angen i ni fynd ymhellach i archwilio cyfleoedd hyfforddi a chymwysterau posibl ar gyfer ein gofalwyr di-dâl. Ar ôl blynyddoedd o neilltuo eu bywydau i eraill, rwy’n credu’n bendant fod gofalwyr yn haeddu’r gydnabyddiaeth a’r rhagolygon ar gyfer y dyfodol y gall cymhwyster ei roi. Maent yn haeddu seibiant, maent yn haeddu cydnabyddiaeth, ond yn bennaf oll, maent yn haeddu ein cefnogaeth ddiwyro.

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 6:28, 1 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr am gyflwyno’r ddadl eithriadol o bwysig hon yma heddiw. Rwy’n mynd i ganolbwyntio fy munud ar ofalwyr ifanc, y rhai dan 18 oed, a oedd, yn ôl cyfrifiad 2011—nododd fod dros 11,500 o ofalwyr ifanc yng Nghymru sy’n cynnig gofal parhaus a chefnogaeth emosiynol i aelodau o’u teuluoedd. Mae gofalwyr ifanc yn aml yn profi unigrwydd a bwlio, ac maent yn ei chael hi’n anodd yn addysgol, a gallant golli’r cyfleoedd y bydd plant eraill yn eu mwynhau o ran chwarae a dysgu. Maent yn aml yn rhy ofnus i ofyn am help, gan eu bod yn poeni ynglŷn â gwneud cam â’u teuluoedd, a chael eu rhoi mewn gofal o ganlyniad i hynny. Dyna pam ei bod mor hanfodol fod yr holl ysgolion, gweithwyr iechyd proffesiynol a sefydliadau eraill sy’n dod i gysylltiad â gofalwyr ifanc yn cael eu hyfforddi’n briodol i’w hadnabod ac i ymgysylltu â hwy er mwyn sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu diwallu. Mae’r pecyn cymorth ar-lein i ofalwyr ifanc a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn helpu i fynd i’r afael â’r union fater hwnnw, ond mae sefydliadau fel Gweithredu dros Blant yn hanfodol bwysig o ran cefnogi’r gofalwyr hynny. Mae ganddynt naw prosiect ar gyfer gofalwyr ifanc yng Nghymru, maent yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau, ac yn gweithio gydag ysgolion. Mae ganddynt wibdeithiau ar gyfer gofalwyr ifanc, eiriolaeth, ac mae sawl un yn Sir Benfro, ac un yng Ngheredigion yn fy ardal.

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, a diolch yn fawr iawn i Jayne Bryant am gynnal y ddadl bwysig hon. Rwy’n meddwl bod Jayne wedi dangos yr effaith enfawr y gall gofalu ei chael ar y gofalwyr, yn enwedig pan fyddant yn hŷn eu hunain. Waeth pa mor fawr yw’r effaith, credaf ei bod yn bwysig iawn cofio bod gofalwyr yn awyddus i ofalu am mai’r person mwyaf annwyl iddynt yw’r person y maent yn gofalu amdanynt.

Roeddwn eisiau dangos y problemau go iawn a all ddod o sefyllfa ofalu gyda’r digwyddiadau trist iawn a ddigwyddodd yn fy etholaeth y llynedd. Roedd un o fy etholwyr 86 oed wedi bod yn gofalu am ei wraig, a oedd hefyd yn 86, ac wedi bod yn dioddef o ddementia ers blynyddoedd lawer. Roedd eu plant wedi gadael cartref. Roedd fy etholwr eisiau aros yn annibynnol, ac roedd ei wraig wedi erfyn arno i beidio â’i rhoi mewn cartref. Yn anffodus, ym mis Gorffennaf y llynedd, daeth popeth yn ormod. Lladdodd fy etholwr ei wraig a thaflu ei hun o dan drên yng ngorsaf Caerdydd Canolog. Bu farw yn yr ysbyty saith wythnos yn ddiweddarach. Mae hwn yn achos eithafol iawn, ond yn y cwest, dywedwyd wrth y cwest fod fy etholwr wedi cael ei ddal mewn niwl o flinder ac roedd wedi rhoi’r ffidil yn y to. Rwy’n credu ei bod yn enghraifft—enghraifft eithafol—o’r cyflwr y gallwch fynd iddo, gan fod hwn yn deulu cariadus: gofalwr a oedd yn caru ei wraig ond a gafodd ei yrru i wneud rhywbeth eithafol oherwydd yr effaith fawr a gafodd hynny arno. Felly, hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Jayne am dynnu sylw at y materion hyn heddiw.

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 6:31, 1 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Rwyf finnau hefyd am ddiolch i Jayne Bryant am ddod â mater pwysicaf ein hoes yn fy marn i i lawr y Cynulliad heddiw. Roeddwn ond eisiau cyfrannu’n fyr, oherwydd, fel llawer o bobl eraill, mae hwn yn fater sy’n agos iawn at fy nghalon, oherwydd, fel llawer o bobl eraill yn y Siambr hon ac ar draws y wlad, mae fy nheulu wedi cael profiad uniongyrchol o’r heriau a wynebir gan ofalwyr di-dâl. Gwn fod yr Aelod dros Orllewin Casnewydd yn ddadleuwr anhygoel o gryf yn y maes hwn.

Ar fy lefel leol, yn yr awdurdod lleol, fe wn fod yna lawer mwy sy’n cael ei wneud i helpu gofalwyr di-dâl drwy’r awdurdod lleol a’r sector gwirfoddol yn gweithio gyda’i gilydd, ond rwy’n meddwl mai’r hyn sydd angen i ni ei wneud yn awr yw adeiladu ar y gwaith hwn i ddatblygu atebion arloesol a chynaliadwy i gau’r bwlch sy’n dal i fodoli weithiau rhwng ysbytai acíwt, ysbytai cymunedol a mathau eraill o ofal seibiant cam-i-fyny cam-i-lawr, yn ogystal â gofal cartref, ond mae angen i’r rhain fod yn addas, a chael eu teilwra a bod yn hyblyg i weddu i’r teulu a’r amgylchiadau. Felly, rydym i gyd yn gwybod bod y pwysau’n cynyddu a bod pobl yn byw’n hwy, sy’n amlwg yn gadarnhaol, ond mae angen inni ymdrin â sut rydym yn ateb yr heriau hynny mewn gwirionedd, yn ariannol ac yn ddemograffig. Felly, fe orffennaf drwy ddweud fy mod yn meddwl bod angen i ni weld sut y gall yr holl bartneriaid gydweithio i ddatblygu modelau newydd o ddarpariaeth yn y sector cyhoeddus sydd â’r rhai sydd angen gofal a’r rhai sy’n darparu gofal yn ganolog iddynt.

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 6:32, 1 Mawrth 2017

Galwaf ar Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i’r ddadl.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch. Fel Llywodraeth, rydym yn cydnabod y rôl hanfodol y mae gofalwyr yn ymgymryd â hi’n ddyddiol, ac mae’r rhain yn cynnwys gwŷr, gwragedd, rhieni, plant, perthnasau, ffrindiau a chymdogion, yn darparu gofal di-dâl ond amhrisiadwy i rai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Yng Nghymru, mae tua 385,000 o ofalwyr, sy’n fwy na 10 y cant o’n poblogaeth, ac amcangyfrifir y bydd y rhif hwnnw’n dyblu dros y 15 mlynedd nesaf. O ystyried y gwaith rhagorol a dihunan y mae gofalwyr yn ei wneud, mae’n rhaid i ni sicrhau nad ydynt yn cael eu cymryd yn ganiataol a’u bod yn cael y cymorth a’r gefnogaeth briodol sydd eu hangen arnynt.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio gwella bywydau gofalwyr ers amser maith. Yn 2000, fe gyhoeddasom ein strategaeth ofalwyr ar gyfer Cymru, a oedd yn rhoi fframwaith ar gyfer darparu gwasanaethau a chymorth i ofalwyr. Dilynwyd hyn 10 mlynedd yn ddiweddarach gan y Mesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010 ac, yn fwy diweddar, mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 wedi ein galluogi i adeiladu ar y cynnydd a chryfhau ein hymrwymiad i ofalwyr.

Fel y cydnabu Jayne yn ei haraith agoriadol, mae’r Ddeddf, a ddaeth i rym ym mis Ebrill y llynedd, yn cryfhau hawliau gofalwyr yn sylweddol. Nawr, am y tro cyntaf, mae gan ofalwyr yr un faint o hawl â’r bobl y maent yn gofalu amdanynt i asesiad a chefnogaeth. Nid oes angen iddynt ddangos mwyach eu bod yn darparu gofal sylweddol er mwyn cael eu hanghenion wedi’u hasesu. Er bod y cyfrifoldeb ar y gofalwr yn flaenorol i ofyn am asesiad, mae’r Ddeddf yn awr yn gosod dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i fynd ati’n rhagweithiol i hysbysu gofalwyr am eu hawl i gael eu hasesu. Pan fydd asesiad wedi’i gynnal, ac os caiff ei gadarnhau bod y gofalwr yn gymwys, yna mae’n ofynnol i’r awdurdod lleol sefydlu cynllun gofal statudol i ddiwallu’r anghenion a nodwyd.

Weithiau, gwyddom y gall fod yn anodd i ofalwyr ddod o hyd i’r wybodaeth a’r cyngor cywir, a dyma pam y mae’r Ddeddf yn gofyn i awdurdodau lleol sicrhau y gall gofalwyr gael hyd i wybodaeth, cyngor a chefnogaeth yn rhwydd ynglŷn â’r math o gymorth a gwasanaethau sydd ar gael yn eu cymunedau. Yn ogystal â sicrhau bod gwasanaethau a chymorth ar gael, mae angen sicrhau bod gweithio effeithiol yn digwydd hefyd ar draws awdurdodau iechyd a lleol, yn ogystal â’r trydydd sector a phartneriaid eraill. Felly sefydlwyd saith bwrdd partneriaeth rhanbarthol statudol. Mae’n rhaid i’r byrddau gydweithio i sicrhau bod gwasanaethau, gofal a chymorth integredig yn cael eu darparu. Nodwyd nifer o feysydd blaenoriaeth mewn canllawiau statudol, gydag un ohonynt yn ymwneud â gofalwyr. Mae gofyniad hefyd i gael cynrychiolydd gofalwyr ar y bwrdd er mwyn sicrhau bod safbwynt y gofalwr bob amser wrth galon yr agenda. Rwy’n gobeithio y bydd y lefel hon o waith partneriaeth ac ymagwedd arloesol yn ateb rhai o’r heriau a nodwyd gan Hannah Blythyn yn ei haraith.

Bydd y Ddeddf yn cael ei gwerthuso i bennu cynnydd a pha un a yw’n cyflawni’r hyn y bwriadwyd ei gyflawni ai peidio. Gwneir hyn mewn tri cham. Bydd polisïau o dan y Ddeddf yn cael eu monitro yn ystod y flwyddyn gyntaf o weithredu er mwyn deall a ydynt yn cael eu gweithredu yn ôl y bwriad ac a ydynt wedi cefnogi gwelliannau. Bydd gwerthuso parhaus yn digwydd drwy’r fframwaith canlyniadau cenedlaethol a fframwaith mesur perfformiad yr awdurdod lleol. Ceir adroddiadau blynyddol i ddarparu gwybodaeth er mwyn dangos pa un a yw lles yn gwella’n genedlaethol. Comisiynir ymchwil annibynnol allanol. Byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod y sector yn parhau i fod wedi’i gynnwys ac yn darparu canllawiau ar gyfer y gwaith pwysig hwn.

Er bod y Ddeddf yn darparu gwelliannau sylweddol i ofalwyr, mae’n bwysig ein bod yn cydnabod y cynnydd a wnaed eisoes gan awdurdodau lleol, byrddau iechyd a’r trydydd sector o dan y Mesur gofalwyr. Mae hyn wedi cynnwys gwaith ar brif ffrydio problemau gofalwyr, gwella’r modd o adnabod gofalwyr yn gynnar a grymuso gofalwyr yn y broses o wneud penderfyniadau. I gefnogi’r trawsnewid o’r gofynion yn y Mesur gofalwyr i’r dyletswyddau manylach yn y Ddeddf, dyrannwyd £1 filiwn o arian ar gyfer 2016-17 a cheir £1 filiwn o arian pellach ar gyfer 2017-18. Bwriedir i’r gwariant hwn ddarparu cefnogaeth i’r maes iechyd, awdurdodau lleol a’r trydydd sector weithio mewn partneriaeth a chefnogi gofalwyr. Darparwyd y cyllid i gryfhau’r dull partneriaeth ar lefel ranbarthol a chreu cyfleoedd i alluogi’r trydydd sector i gymryd rhan lawn yn y gwaith o gyflawni. Fe’i rhoddwyd hefyd i alluogi arferion da presennol i gael eu hymgorffori a’u prif ffrydio fel eu bod yn dod yn arferion cyffredin.

Ar hyn o bryd rydym yn adnewyddu ein strategaeth ofalwyr a bydd yn adlewyrchu’r gwelliannau i hawliau gofalwyr yn y Ddeddf ac yn nodi’r meysydd blaenoriaeth allweddol a chamau gweithredu a gaiff eu datblygu i gefnogi gofalwyr. Datblygir hyn mewn partneriaeth â rhwydweithiau a sefydliadau gofalwyr a chyda gofalwyr eu hunain i sicrhau bod perchnogaeth ar y cyd a chamau ar y gweill i fynd i’r afael â’r materion sydd o bwys gwirioneddol i ofalwyr. Cyfarfûm â Chynghrair Cynhalwyr Cymru ym mis Rhagfyr er mwyn i mi glywed yn uniongyrchol ganddynt am y materion y credant fod angen i ni eu hystyried wrth ddatblygu’r cynllun.

Bydd y cynllun gweithredu strategol yn nodi’r hyn a wnaethom, yr hyn y dywedwyd wrthym gan ofalwyr a pha gamau y byddwn yn eu cymryd mewn ymateb i hynny. Mae gofalwyr wedi dweud wrthym eu bod am gael eu cydnabod am y gwaith y maent yn ei wneud. Maent eisiau mynediad hawdd at y wybodaeth a’r cymorth cywir ac maent eisiau cefnogaeth gyda’u bywydau y tu allan i’r rôl ofalu, gan gynnwys mynediad at ofal seibiant a gwyliau byr. Gwyddom pa mor bwysig yw hi i bobl allu aros yn eu swyddi pan fyddant yn gofalu am eraill. Gwyddom hefyd pa mor anodd y gall fod i ofalwyr pan ddaw eu rôl ofalu i ben, a chyfeiriodd Jayne yn gynharach at yr unigrwydd a’r arwahanrwydd sy’n gallu wynebu gofalwyr. Mynychais lansiad Ffrind i mi yng Nghasnewydd gyda Jayne, ac rwy’n cydnabod pwysigrwydd cynlluniau cyfeillio a rôl werthfawr gwirfoddolwyr. Fel y dywedais yn y ddadl ddiweddar ar unigrwydd ac arwahanrwydd, fel Llywodraeth rydym yn ymrwymedig i wneud popeth yn ein gallu i fynd i’r afael â’r mater hwn, a bydd yn cynnwys edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud i gefnogi gofalwyr. Felly, er mwyn ymateb i’r hyn y mae gofalwyr yn ei ddweud sy’n bwysig iddynt, mae trafodaethau cychwynnol gyda rhanddeiliaid wedi nodi tair thema allweddol, sy’n cynnwys adnabod a chydnabod gofalwyr; gwybodaeth, cyngor a chymorth; a bywyd y tu allan i’r rôl ofalu. Cynhelir trafodaethau pellach dros y misoedd nesaf i nodi’r camau gweithredu â blaenoriaeth sydd i’w cyflawni o dan bob un o’r themâu hyn. Dilynir hyn gan ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol yn ystod yr haf. Fodd bynnag, rydym eisoes wedi ymrwymo i archwilio’r posibilrwydd o ddarparu cardiau adnabod i ofalwyr ifanc, ac rydym hefyd yn archwilio ymagwedd genedlaethol tuag at ofal seibiant.

Rydym hefyd yn gweithio’n rhan o’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig ar nifer o feysydd blaenoriaeth mewn perthynas â gofalwyr, ac mae’r rhain yn cynnwys ffrydiau gwaith penodol ar ofalwyr ifanc—yn sicr, byddaf yn ystyried sylwadau Joyce Watson—a gofalwyr pobl hŷn, gan gynnwys gofalwyr hŷn. Mae stori drist iawn Julie yn dangos y pwysau penodol ac arbennig iawn sydd ar ofalwyr hŷn. Hefyd, nodi gofalwyr, a gwasanaethau teleofal a theleiechyd a thechnolegau cynorthwyol. Bydd y gwaith hwn yn cael ei ddefnyddio i lywio’r broses o ddatblygu ein cynllun gweithredu strategol ar gyfer gofalwyr.

Yn olaf, ar ran Llywodraeth Cymru, hoffwn ddiolch i ofalwyr ar draws Cymru am eu hymroddiad a’u hymrwymiad i wella bywydau’r bobl y maent yn gofalu amdanynt. Hoffwn hefyd eu hannog i arfer eu hawliau a manteisio ar y cymorth y mae ganddynt hawl iddo. Rydym am i ofalwyr gymryd rhan weithredol yn y gwaith rydym yn ei wneud ar ailwampio’r strategaeth ofalwyr er mwyn i ni a phartneriaid eraill allu sicrhau ein bod yn cymryd camau i fynd i’r afael â’r materion sy’n wirioneddol bwysig iddynt. Diolch.

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 6:40, 1 Mawrth 2017

Diolch yn fawr. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:40.