Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 7 Mawrth 2017.
Brif Weinidog, mae gwaith ymchwil gan Fanc Lloyds yn dangos bod nifer y busnesau newydd sy'n cychwyn yng Nghymru wedi gostwng gan fwy na chwarter dros y pum mlynedd diwethaf. Gostyngodd nifer y busnesau newydd gan fwy na 27 y cant yng Nghaerffili, mwy na 23 y cant yn Nhrefynwy, a llai na 9 y cant yng Nghasnewydd, ac 8 y cant ym Mlaenau Gwent. Nid yw hynny'n cynnig darlun da o fusnesau newydd yn y de-ddwyrain. Pa fesurau a chymhellion y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cyflwyno i greu'r amodau economaidd i annog busnesau newydd i sefydlu yn y de-ddwyrain?