<p>Datblygu Economaidd yn Ne-ddwyrain Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 7 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:33, 7 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Mae gennym ni’r nifer uchaf erioed o fusnesau newydd. Rydym ni’n gweld mwy a mwy o bobl ifanc yn arbennig yn cymryd rhan mewn busnesau ac yn dod yn llwyddiannus iawn mewn busnes. Mae'n iawn i ddweud bod Brexit yn cyflwyno elfen o ansicrwydd, ac mae hwn yn bendant yn gyfnod ansicr i fusnesau. Ond, fel Llywodraeth, byddwn yn parhau, wrth gwrs, i gefnogi busnesau newydd a sicrhau bod llawer o'r busnesau hynny yn dod yn BBaChau a hyd yn oed yn fwy yn y dyfodol.