<p>Maes Awyr Caerdydd</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 7 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:35, 7 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Croesewir y cytundeb a gyhoeddwyd ddoe rhwng Llywodraeth Cymru a Maes Awyr Heathrow. Ond, mewn gwrthgyferbyniad llwyr i'r hyn a gyhoeddwyd o ran yr Alban, nid oes unrhyw dargedau pendant yn y cytundeb, dim byd am swm y gwariant sy'n gysylltiedig ag adeiladu, dim am y targed swyddi cyffredinol, dim am daliadau glanio neu gronfa ddatblygu ar gyfer teithiau awyr. A yw hynny oherwydd bod y Prif Weinidog, yn y bôn, wedi colli unrhyw fantais oedd ganddo mewn trafodaethau trwy ddatgan ei gefnogaeth i Heathrow, heb gael y consesiynau hyn mewn gwirionedd, yn wahanol i'r hyn a wnaeth Llywodraeth yr Alban?