Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 7 Mawrth 2017.
Wel, mae'r cwestiwn yn ymwneud â mynediad at Faes Awyr Caerdydd, ond rwy'n fwy na pharod i ateb y cwestiwn am Heathrow. Rwy'n synnu nad yw'n croesawu'r cyhoeddiad ddoe—y ffaith y bydd 8,000 o swyddi yn cael eu sicrhau, yr holl fuddsoddiad hwnnw, y ffaith einh bod wedi gweithio gyda Heathrow i—[Torri ar draws.] Ni wnaiff sgrechian main ei helpu. Y ffaith ein bod ni wedi sicrhau ymrwymiad i ganolfannau gweithgynhyrchu y tu allan i Gymru. Mae gennym ni ddigwyddiad ar 5 Gorffennaf i sicrhau bod busnesau Cymru—[Torri ar draws.] Wel, mae'n dal i sgrechian yn fain. Bydd busnesau Cymru yn gallu manteisio’n llawn—[Torri ar draws.] Nid yw wedi dysgu ei wers o hyd. Bydd busnesau Cymru yn gallu—