<p>Maes Awyr Caerdydd</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 7 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 1:38, 7 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy’n croesawu'r cytundeb partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Heathrow o ran cwmnïau hedfan sydd eisiau hedfan allan o Faes Awyr Caerdydd Cymru i Heathrow, a'r potensial o filoedd o swyddi medrus newydd y gallai eu creu, ochr yn ochr â rhoi hwb i economi Cymru. Fodd bynnag, i’m hetholwyr i a phobl a busnesau ar draws y gogledd-ddwyrain, cysylltiadau cynyddol a gwell gyda meysydd awyr fel Lerpwl a Manceinion sy’n gwneud gwahaniaeth uniongyrchol iddyn nhw. Felly, Brif Weinidog, a gaf i annog bod gwell cysylltedd a mwy o effeithlonrwydd o ran cysylltiadau trên i feysydd awyr cyfagos gogledd-orllewin Lloegr yn rhan allweddol o gynlluniau metro gogledd-ddwyrain Cymru ac yn cael eu hystyried yn rhan o fasnachfraint Cymru a'r gororau?