Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 7 Mawrth 2017.
Ie. Gallaf ddweud, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, bod Trenau Arriva Cymru wedi sicrhau llwybrau ychwanegol o ogledd Cymru i Faes Awyr Manceinion gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Dechreuodd y gwasanaethau ychwanegol hynny weithredu ym mis Mai y llynedd, ac rydym ni’n gweithio, wrth gwrs, gyda Merseytravel i ddatblygu cyfleoedd ar gyfer cyflwyno gwasanaethau newydd i Lerpwl ac i faes awyr John Lennon yn y fasnachfraint nesaf, ar droad Halton sydd wedi ailagor.