Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 7 Mawrth 2017.
Diolch, Lywydd. Tra bod y Prif Weinidog i ffwrdd yr wythnos diwethaf, efallai ei fod wedi gweld bod Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid wedi ysgrifennu at Ganghellor y Trysorlys ynghylch toriadau arfaethedig i wariant cyhoeddus ymhen dwy neu dair blynedd, a fydd yn gyfanswm o £3.5 biliwn. Mae'r Llywodraeth, eleni, yn rhedeg diffyg yn y gyllideb sy’n cyfateb i £60 biliwn. Llwyddodd George Osborne i gyflawni’r gamp unigryw o fenthyg dwywaith gymaint o arian mewn chwe blynedd ag a wnaeth Gordon Brown ac Alistair Darling. Mae’r ddyled genedlaethol yn £1,800 biliwn erbyn hyn, o'i gymharu â £1,200 biliwn chwe blynedd yn ôl. Mae hynny’n £28,000 ar gyfer pob person yng Nghymru—y Deyrnas Unedig, yn wir. Mae'n hawdd iawn gwario arian nad oes gennym, wrth gwrs, a byddai pawb yn hoffi gallu benthyg yn ddiderfyn a byth yn gorfod ei ad-dalu. O faint y mae'n credu y dylai gofyniad benthyg y Llywodraeth gynyddu ar sail barhaol?