Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 7 Mawrth 2017.
Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, ar 16 Ionawr, cyflwynwyd Bil Undebau Llafur (Cymru) gennych. Bwriad y Bil hwnnw yw datgymhwyso agweddau ar Ddeddf Undeb Llafur 2016 Llywodraeth y DU. Mae Plaid Cymru yn cefnogi hyn—credwn y dylai cysylltiadau diwydiannol gael eu penderfynu yma ac nid yn San Steffan. Bydd eich Bil undebau llafur yn gymwys o dan bwerau presennol y Cynulliad. A ydych chi’n credu y bydd yn gymwys o dan y model cadw pwerau yr ydym ni’n symud iddo o dan y Ddeddf Cymru newydd?