Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 7 Mawrth 2017.
Mae Deddf Cymru yn cyflwyno rhestr drom o gyfyngiadau, ac mae cysylltiadau diwydiannol yn un o'r cyfyngiadau hynny. Clywsom ddoe gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol bod Llywodraeth y DU yn bwriadu deddfu ar gysylltiadau diwydiannol ar ôl i Ddeddf Cymru 2017 ddod i rym—maen nhw’n defnyddio’r geiriau 'ar y cyfle cyntaf'.
Os ydych chi eisiau lleihau streiciau, nid trwy gyfyngiadau cyfreithiol yw’r ffordd orau, ond trwy drafod, deialog a dull partneriaeth gymdeithasol sy'n cael ei argymell gan fwyafrif y bobl yn y Cynulliad hwn. Rydych chi wedi dweud eich bod chi’n dal i fwriadu mynd â’r Bil undebau llafur drwy'r Cynulliad hwn. Beth yw eich cynllun i sicrhau nad yw ei ddarpariaethau yn cael eu gwrthod gan Lywodraeth y DU?