Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 7 Mawrth 2017.
Diolch. Tybed a fyddwn ni’n gweld achos Goruchaf Lys arall nawr, ac rwy'n siŵr y byddech chi’n cytuno y byddai hynny'n farn ddamniol ar Ddeddf Cymru. Pleidleisiodd Plaid Cymru yn erbyn y cynnig cymhwysedd deddfwriaethol ar Ddeddf Cymru gan ein bod ni o'r farn y gallai arwain at gydio pŵer gan San Steffan. A fyddech chi’n cytuno bod hyn yn edrych fel cyfiawnhad erbyn hyn o’n safbwynt ni ar y bleidlais honno?
Ceir cytundeb ar draws y rhan fwyaf o'r Siambr hon nad yw Deddf Cymru yn mynd i gynnig setliad parhaol, fel y dywedodd Llywodraeth y DU oedd ei hamcan i’w sicrhau. A wnewch chi ddatgan heddiw pa un a ydych chi’n credu bod Deddf Cymru 2017 yn anymarferol? Os ydych chi’n credu ei bod yn anymarferol, a ydych chi’n cefnogi galwad Plaid Cymru am Fil Cymru newydd ar unwaith?