<p>Cyflogaeth ar gyfer Pobl sydd â Chyflyrau Iechyd Hirdymor Cyfnewidiol</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 7 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 1:56, 7 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n croesawu eich cyfeiriad at faterion iechyd meddwl, sef yr hyn yr oeddwn i’n mynd i’w godi. Un mesur effeithiol i drin problemau iechyd meddwl yw therapi siarad, a all leihau'r angen i roi meddyginiaeth ar bresgripsiwn, a fyddai ynddo’i hun yn gwella gallu pobl i ymuno â’r farchnad swyddi. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo gyda’r ddarpariaeth o therapi siarad yng Nghymru?