Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 7 Mawrth 2017.
Rydym yn cydnabod, cyn belled ag y mae iechyd meddwl yn y cwestiwn, na all y cwbl fod yn ymyrraeth fferyllol. Mae cwnsela yn bwysig, ac felly hefyd, wrth gwrs, ymarfer corff. Mae ymarfer corff ar gael yn y rhan fwyaf o Gymru, rwy’n credu, o ran cael ei ragnodi i bobl. Mae ein cynllun cyflawni, 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', yno, wrth gwrs, i helpu pobl yng Nghymru fod yn fwy gwydn a gallu mynd i'r afael â llesiant meddwl gwael pan fydd yn digwydd. Yn rhan o’r cynllun hwnnw, rydym ni’n edrych ar wahanol therapïau a fydd yn helpu pobl mewn ffyrdd gwahanol a mwy effeithiol.