Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 7 Mawrth 2017.
Byddwn yn edrych yn ofalus ar gyllid economaidd rhanbarthol yng nghyd-destun y cynllun gweithredu symudol sydd ar y gweill, ac yn ystod cam nesaf datblygiad band eang cyflym iawn, i weld sut orau y gallai hyn gefnogi’r ddarpariaeth wedi'i thargedu o seilwaith cyfathrebu ar sail fwy rhanbarthol neu leol. Ceir rhai rhannau o Gymru lle nad oes gwasanaeth. Rydym ni’n gwybod bod rhai rhannau o Gymru—mae Ynys Môn yn un enghraifft, a godir yn aml yn y Siambr gan yr Aelod dros Ynys Môn—lle mae'n ymddangos bod gwasanaeth, ac eto nid yw'n ddigon cryf i ddarparu gwasanaeth data. Felly, mae problemau y bydd angen eu datrys ar gyfer y dyfodol ac mae defnyddio cyllid economaidd rhanbarthol yn un ffordd y gellid gwneud hynny.