1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 7 Mawrth 2017.
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y seilwaith cyfathrebu digidol yng Nghymru? OAQ(5)0488(FM)
Trwy brosiect Cyflymu Cymru a thrafodaethau parhaus, rheolaidd gyda gweithredwyr rhwydweithiau symudol, Ofcom a Llywodraeth y DU, rydym ni wedi hwyluso mynediad at fand eang ffibr cyflym i dros 630,000 o adeiladau yng Nghymru ac wedi sicrhau cadarnhad y bydd 90 y cant o ardal ddaearyddol Cymru yn derbyn gwasanaeth symudol erbyn diwedd y flwyddyn hon.
A gaf i longyfarch Llywodraeth Cymru ar y cynnydd o ran cyflwyno band eang cyflym iawn? Wrth i ni symud i fynd i'r afael â'r bylchau terfynol yn hynny o beth a gwella cysylltedd symudol, mae'n amlwg bod topograffi Cymru, mor hardd ag ydyw, yn creu heriau penodol i gysylltedd digidol ac efallai fod angen mynediad mwy cymesur at seilwaith arnom na rhannau eraill o’r DU i gyrraedd yr un lefel o wasanaeth yn y diwedd. Rwy'n edrych ymlaen at gynllun symudol Llywodraeth Cymru ac rwy'n gobeithio y bydd yn cynnwys camau i bwyso ar weithredwyr i rannu seilwaith. Ond, hefyd, a wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried sut y gellid defnyddio tir sy’n eiddo cyhoeddus, lle bo'n briodol, i leoli seilwaith digidol—ac wrth i ni edrych y tu hwnt i Brexit ar sut yr ydym ni’n defnyddio arian cyhoeddus i gefnogi rheolaeth tir, ein bod ni’n ystyried sut y gellir defnyddio rhaglenni yn y dyfodol i gymell lleoliad seilwaith digidol mewn ardaloedd gwledig a lled-wledig lle gallant wneud gwahaniaeth i gysylltedd Cymru gyfan?
Byddwn yn edrych yn ofalus ar gyllid economaidd rhanbarthol yng nghyd-destun y cynllun gweithredu symudol sydd ar y gweill, ac yn ystod cam nesaf datblygiad band eang cyflym iawn, i weld sut orau y gallai hyn gefnogi’r ddarpariaeth wedi'i thargedu o seilwaith cyfathrebu ar sail fwy rhanbarthol neu leol. Ceir rhai rhannau o Gymru lle nad oes gwasanaeth. Rydym ni’n gwybod bod rhai rhannau o Gymru—mae Ynys Môn yn un enghraifft, a godir yn aml yn y Siambr gan yr Aelod dros Ynys Môn—lle mae'n ymddangos bod gwasanaeth, ac eto nid yw'n ddigon cryf i ddarparu gwasanaeth data. Felly, mae problemau y bydd angen eu datrys ar gyfer y dyfodol ac mae defnyddio cyllid economaidd rhanbarthol yn un ffordd y gellid gwneud hynny.
Brif Weinidog, rwyf wedi derbyn cwynion oddi wrth gynrychiolwyr yn y byd busnes ynglŷn ag ansawdd gwasanaethau Wi-Fi ar drenau sy’n rhedeg rhwng Abertawe a Paddington. Yn aml, mae hyn oherwydd signal gwael ar hyd y llwybr. Gan fod hwn yn wasanaeth allweddol bwysig i ni yng Nghymru, beth mae’ch Llywodraeth chi yn ei wneud wrth gydweithio â Llywodraeth San Steffan a chwmnïau preifat sy’n rhedeg y rhwydwaith i wella’r signal ar hyd y llwybr yma, a hefyd ar hyd llwybrau eraill ar draws Cymru?
Mae hyn yn hollbwysig. Fel un sydd wedi defnyddio’r gwasanaeth hwnnw, gallaf ddweud y rhan fwyaf o’r amser nad yw’n gweithio. Wrth gwrs, mae’n un peth i gael y gwasanaeth ar y trên, ond mae’n rhywbeth arall bod y gwasanaeth yn gweithio yn effeithiol. Rydym yn cysylltu, wrth gwrs, gyda First Great Western er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth yn gwella yn y pen draw. Rwy’n gwybod ei fod yn bosib—rwyf wedi ei weld ar drenau eraill lle mae’r system yn gweithio yn dda—ac rydym yn moyn sicrhau, wrth gwrs, drwy ystyried y franchise y flwyddyn nesaf, fod hwn yn rhywbeth sydd yn dod yn arferol ym mhob trên yng Nghymru yn y pen draw.
Brif Weinidog, soniasoch am ffibr cyflym yn eich ateb i gwestiwn gwreiddiol Jeremy Miles am wasanaethau band eang, a hoffwn ddechrau gyda’r newyddion da bod pentref Tyndyrn ar Afon Gwy yn fy etholaeth i wedi cael ei gysylltu yn ffodus iawn yn ddiweddar i flwch band eang cyflym iawn, sydd yn plesio’r pentref yn fawr. Ar y llaw arall, yng nghefn gwlad anghysbell Trellech Grange, pentref ar y cyrion, nid ydynt wedi elwa o'r blwch hwnnw, ac mae’n ymddangos bod BT o dan yr argraff bod yr ardal gyfan yn cael ei gwasanaethu gan fand eang cyflym iawn erbyn hyn a bod y broblem wedi cael ei datrys. A allwch chi gysylltu â BT i wneud yn siŵr, pan fo pentref mewn ardal wledig yn cael ei gysylltu, nad yw ardal gyfagos nad yw mor lwcus yn cael ei hystyried wedyn fel pe byddai wedi cael ei thrin yn yr un modd, gan nad oes gan y bobl hynny lawer o obaith wedyn o unrhyw ddyddiad terfyn ar gyfer eu problemau band eang?
Byddaf yn ymchwilio i'r mater i'r Aelod ac yn ysgrifennu at yr Aelod gydag ymateb.
Rwy'n credu bod fy nghwestiwn yn un syml ac efallai fod ateb syml iddo. Mae Cyflymu Busnes Cymru yn gwneud gwaith gwych yn eu sioeau teithio a’u gweithdai ledled y wlad, ac wrth i mi edrych trwy restr aruthrol o leoedd y maen nhw’n mynd iddynt, mae'n eithaf trawiadol sut y maen nhw’n cynyddu’r potensial o ran sut i sefydlu’r cysylltiadau hynny. Ond yr un lle sydd ar goll yn hyn i gyd—gogledd, de, dwyrain a gorllewin—yw un o gadarnleoedd diwydiant mawr y de, sef Pen-y-bont ar Ogwr. Felly, a gaf i awgrymu y gallem ni, trwy ei ymdrechion gorau ef a’m rhai innau, efallai eu perswadio i ddod ag un o'r sioeau teithio i Ben-y-bont ar Ogwr, o bosibl i'r gogledd o'r M4 yn ardal Ogwr? [Chwerthin.]
Gan sefyll yma, ni allaf wneud sylwadau ar ran Aelod y Cynulliad dros Ben-y-bont ar Ogwr, ond rwy'n siŵr y bydd geiriau’r Aelod yn cyseinio â’r Aelod hwnnw.