Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 7 Mawrth 2017.
Un o’r rhwystredigaethau ydy bod myfyrwyr cymwys o Gymru sydd eisiau cael eu hyfforddi yng Nghymru mewn ysgolion meddygol ddim yn cael y cyfle i wneud hynny. Pan fyddwn yn edrych ar y canrannau yn Lloegr, mae 80 y cant o’r myfyrwyr mewn ysgolion meddygol o Loegr, 50 y cant yn yr Alban, er enghraifft, ond dim 20 y cant yng Nghymru. A allem ni warantu bod pob myfyriwr o Gymru sydd â’r gallu yn gallu cael lle i hyfforddi yma yng Nghymru? Wrth gwrs, mae hynny’n effeithio yn drwm iawn wedyn ar y gallu i’w cadw nhw yma o fewn y gwasanaeth iechyd.