1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 7 Mawrth 2017.
5. Pa gynlluniau sydd gan y Prif Weinidog i fynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n wynebu'r broses o recriwtio meddygon teulu yng Nghymru? OAQ(5)0484(FM)
Byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid, gan gynnwys Pwyllgor Meddygon Teulu Cymru, i fynd i'r afael â'r heriau a wynebir gan y gweithlu meddygon teulu yng Nghymru. Bydd y gwaith hwnnw'n cael ei gefnogi gan fuddsoddiad ychwanegol o £27 miliwn ar gyfer gwasanaethau meddygol cyffredinol yn ystod 2017-18, fel y cyhoeddwyd dros y penwythnos.
Diolch i chi am hynna. Rwyf wedi cyfarfod â llawer iawn o'r sefydliadau sy'n cynrychioli pob agwedd ar amgylchedd gwaith meddygon teulu ac, wrth gwrs, mae’r mater o indemniad proffesiynol yn un o'r prif bwyntiau sy'n cael eu cyfleu fel rhwystr i gael mwy o feddygon teulu sydd naill ai’n ystyried ymddeol a gweithio’n rhan-amser i ryddhau mwy o'u horiau meddygon teulu a mynd i mewn i feddygfeydd teulu, a fyddai wir yn helpu gyda’r holl giwiau a'r problemau a welwn mewn practisau meddygon teulu. Rwy’n ymwybodol bod rhywfaint o'r £27 miliwn wedi ei glustnodi i helpu i wrthbwyso rhywfaint ar yr indemniad hwnnw, ond yr hyn yr oeddwn i wir eisiau ei wybod oedd fy mod ar ddeall bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi comisiynu adroddiad gan gyfreithwyr Llywodraeth Cymru ar y mater hwn, ac roeddwn i’n meddwl tybed a allai'r Prif Weinidog ddweud wrthyf a yw'r adroddiad hwn wedi ei gwblhau, ac os felly, a allech chi rannu gyda ni y cyngor a roddodd i Ysgrifennydd y Cabinet?
Mae hyn yn rhywbeth sy'n cael ei drafod yn ymarferol gyda'r proffesiwn er mwyn symud ymlaen â hynny. Gallaf ddweud bod y pecyn a gyhoeddwyd dros y penwythnos wedi ei gynllunio, ymhlith pethau eraill, i gynyddu’r cyfraniad, fel y mae’r Aelod yn dweud, at y costau cynyddol o indemniad proffesiynol, yn ogystal, wrth gwrs, ag ymdrin â phethau fel costau cynyddol gweinyddu pensiynau, a chynnydd cyffredinol i ymdrin â chostau ymarfer cynyddol.
Un o’r rhwystredigaethau ydy bod myfyrwyr cymwys o Gymru sydd eisiau cael eu hyfforddi yng Nghymru mewn ysgolion meddygol ddim yn cael y cyfle i wneud hynny. Pan fyddwn yn edrych ar y canrannau yn Lloegr, mae 80 y cant o’r myfyrwyr mewn ysgolion meddygol o Loegr, 50 y cant yn yr Alban, er enghraifft, ond dim 20 y cant yng Nghymru. A allem ni warantu bod pob myfyriwr o Gymru sydd â’r gallu yn gallu cael lle i hyfforddi yma yng Nghymru? Wrth gwrs, mae hynny’n effeithio yn drwm iawn wedyn ar y gallu i’w cadw nhw yma o fewn y gwasanaeth iechyd.
Mae’n rhaid i fi ddweud—rwy’n siŵr ei fod e wedi clywed yr un peth—fod pobl wedi dweud wrthyf i eu bod nhw wedi gweld enghreifftiau o bobl ifanc sydd heb gael cynnig i astudio yng Nghaerdydd ond wedi cael cynnig i astudio yn Lloegr. Nawr, mae hwn yn rhywbeth sydd yn fy mhryderu—os ydyn nhw’n ddigon da i fynd i Loegr, wedyn fe ddylen nhw fod yn ddigon da i fynd i’r brifysgol yng Nghymru. Beth wnaf i—roedd hwn yn rhywbeth a oedd yn cael ei ystyried yn ddiweddar—yw ysgrifennu at yr Aelod ar y pwnc hwn. Rwyf wedi clywed pobl yn dweud hynny wrthyf i—rwy’n siŵr ei fod e wedi ei glywed e hefyd. Mae’n hollbwysig ein bod ni yn deall y system o ddewis myfyrwyr er mwyn sicrhau bod myfyrwyr o Gymru yn cael y chwarae teg y dylen nhw gael.
Brif Weinidog, ceir sylfaen dystiolaeth gref sy'n awgrymu bod myfyrwyr meddygol yn fwy tebygol o fod eisiau ymarfer yn yr hirdymor yn y lle maen nhw wedi hyfforddi ynddo. Felly, rwy’n croesawu menter bwrdd iechyd Cwm Taf, lle, mewn partneriaeth ag Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd, mae 60 o fyfyrwyr meddygol bob blwyddyn wedi cael cyflawni rhan gynnar eu hyfforddiant mewn meddygfeydd teulu yng nghymoedd y de. Brif Weinidog, a ydych chi’n cytuno bod rhoi’r amlygiad hwn i ymarfer cyffredinol i fyfyrwyr meddygol yn gynnar yn hanfodol i’w hyrwyddo fel dewis gyrfaol, a sut arall allwn ni hyrwyddo'r Cymoedd fel lle da i feddygon teulu weithio ynddo?
Wel, mae hyn yn rhywbeth, wrth gwrs, sy’n hynod bwysig, fel mae’r Aelod yn ei ddweud. Os edrychwn ni, er enghraifft, ar glwstwr y Rhondda yng Nghwm Taf, mae hwnnw wedi bod yn arbennig o weithgar o ran recriwtio. Mae'n bwysig iawn, wrth gwrs, bod myfyriwr yn mynd i rywle ac yn cael profiad cadarnhaol. Dyna pam mae’n hynod bwysig ein bod ni’n gallu gwneud hynny. Os edrychwn ni ar glwstwr y Rhondda fel enghraifft: mae ganddyn nhw swyddog cyfathrebu clwstwr i ddatblygu enw da'r Rhondda fel lle gwych i weithio ynddo, maen nhw wedi datblygu gwefan Rhondda Docs, sy'n disgrifio'r ffordd o fyw a’r yrfa sydd ar gael yn y Rhondda, ac maen nhw wedi datblygu arolwg a dadansoddiad recriwtio a chadw staff, a fydd yn rhan o gynllun cyflawni’r clwstwr yn y flwyddyn ariannol newydd. Dyna un enghraifft y gall clystyrau eraill ei defnyddio neu ei haddasu er mwyn gwneud yn siŵr, pan fydd myfyrwyr yn cyflawni eu hyfforddiant meddygon teulu yn ardaloedd y Cymoedd, eu bod yn teimlo eu bod yn dod i le sy’n flaengar, sydd â digon o adnoddau ac sydd â meddygon teulu sy'n ymroddedig i'w cymuned—ac o ran yr holl elfennau hynny, mae'r clwstwr yn cyflawni’r rhwymedigaethau hynny.