Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 7 Mawrth 2017.
Mae'r Aelod yn siarad am y SuRNICC ac mae'r SuRNICC, wrth gwrs, yn uned arbenigol. Fel y bydd yr Aelodau'n cofio, y cynnig gwreiddiol oedd symud y gwasanaethau hynny i Ysbyty Arrowe Park. Roeddwn i o’r farn bod yn rhaid i ni adolygu'r penderfyniad hwnnw i weld a oedd yn bosibl ac yn ddiogel i’r gwasanaeth hwnnw gael ei ddarparu yng Nghymru, ac yn sicr ddigon, y SuRNICC yw canlyniad hynny. Mae'n datblygu’n dda o ran recriwtio ac o ran adeiladu ac edrychaf ymlaen at agoriad y SuRNICC ar safle Glan Clwyd.