Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 7 Mawrth 2017.
Brif Weinidog, yn ystod y Cynulliad blaenorol, cynyddodd Llywodraeth Cymru nifer y lleoedd myfyrwyr bydwreigiaeth. Fodd bynnag, yn yr 'Adroddiad ar Gyflwr Gwasanaethau Bydwreigiaeth' diweddaraf, mae Coleg Brenhinol y Bydwragedd yn nodi nad yw’n briodol mwyach cynnal nifer gyson o leoedd hyfforddi, gan fod y boblogaeth fydwreigiaeth yn heneiddio. Pa gynlluniau sydd gan eich Llywodraeth i gynyddu nifer y lleoedd hyfforddi i fydwragedd dan hyfforddiant yng Nghymru?