Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 7 Mawrth 2017.
Rwy'n credu bod yn rhaid i ni wahanu’r mater o ffermio cŵn bach a'r mater o werthiannau trydydd parti dilys. Gwn y bydd rhai yn dweud nad oes unrhyw wahaniaeth, gan fy mod i wedi ei glywed. Nid wyf yn derbyn y farn honno; rwy'n credu bod rhai sy'n gwerthu trwy lwybr trydydd parti yn ymroddedig i’w hanifeiliaid ac yn cadw at y safonau uchaf posibl, a cheir y rheini nad ydynt, a nhw yw’r ffermwyr cŵn bach. Ond, wrth gwrs, yr hyn sy’n hynod bwysig yw bod awdurdodau lleol yn neilltuo’r adnoddau y dylent i sicrhau bod y rheoliadau mewn grym a bod y gyfraith yn cael ei dilyn. Ac, yn wir, gwn y bu achos llys diweddar yng Ngheredigion lle gwnaeth Cyngor Ceredigion wneud yn union hynny—gorfodwyd y gyfraith ganddynt. Dilynwyd y broses farnwrol ganddynt a arweiniodd at erlyniad y bridiwr, ac maen nhw hefyd wedi sicrhau bod trefniadau priodol wedi eu gwneud o ran cŵn yn cael eu symud o’r safle.
Felly, mae awdurdodau lleol yn gorfodi'r gyfraith. Mae'n hynod bwysig bod y bobl hynny, y cnafon go iawn, os gallaf ei roi felly—y ffermwyr cŵn bach—yn cael eu cosbi a bod y gyfraith yn darparu’r modd i wneud hynny.