1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 7 Mawrth 2017.
7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gamau gorfodi a gymerwyd o dan Reoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014? OAQ(5)0487(FM)
Gwnaf. Cyfrifoldeb yr awdurdodau lleol yw gorfodi'r rheoliadau. Fodd bynnag, mae swyddogion yn gweithio gyda phenaethiaid safonau masnach yng Nghymru, trwy’r rhaglen cyflenwi mewn partneriaeth, i gasglu data er mwyn asesu effeithiolrwydd y rheoliadau hyn.
Iawn, diolch am yr ateb yna, Brif Weinidog. Mae gwybodaeth a dderbyniwyd gan ymgyrchwyr yn erbyn ffermio cŵn bach yn dweud nad oes gan awdurdodau lleol yr adnoddau i orfodi'r ddeddfwriaeth. Yn ei adroddiad, ‘Animal Welfare in England: Domestic Pets’, argymhellodd Pwyllgor yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig y dylai Llywodraeth y DU wahardd gwerthu cŵn ar sail trydydd parti ac y dylai cŵn fod ar gael i fridwyr trwyddedig a reoleiddir neu i sefydliadau ailgartrefu cymeradwy yn unig. Byddai hyn yn gwneud llawer i roi terfyn ar y diwydiant ffermio cŵn bach, sy'n arwain at gam-drin a dioddefaint cŵn a pherchnogion.
Mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu anwybyddu’r argymhelliad hwn. Os oes gan y Prif Weinidog y pwerau datganoledig i wneud hynny, a yw'n bwriadu gwahardd gwerthu cŵn ar sail trydydd parti yng Nghymru? Ac os nad yw'n bwriadu gwneud hynny, sut mae'r Prif Weinidog yn bwriadu bwrw ymlaen â’r mater hwn?
Rwy'n credu bod yn rhaid i ni wahanu’r mater o ffermio cŵn bach a'r mater o werthiannau trydydd parti dilys. Gwn y bydd rhai yn dweud nad oes unrhyw wahaniaeth, gan fy mod i wedi ei glywed. Nid wyf yn derbyn y farn honno; rwy'n credu bod rhai sy'n gwerthu trwy lwybr trydydd parti yn ymroddedig i’w hanifeiliaid ac yn cadw at y safonau uchaf posibl, a cheir y rheini nad ydynt, a nhw yw’r ffermwyr cŵn bach. Ond, wrth gwrs, yr hyn sy’n hynod bwysig yw bod awdurdodau lleol yn neilltuo’r adnoddau y dylent i sicrhau bod y rheoliadau mewn grym a bod y gyfraith yn cael ei dilyn. Ac, yn wir, gwn y bu achos llys diweddar yng Ngheredigion lle gwnaeth Cyngor Ceredigion wneud yn union hynny—gorfodwyd y gyfraith ganddynt. Dilynwyd y broses farnwrol ganddynt a arweiniodd at erlyniad y bridiwr, ac maen nhw hefyd wedi sicrhau bod trefniadau priodol wedi eu gwneud o ran cŵn yn cael eu symud o’r safle.
Felly, mae awdurdodau lleol yn gorfodi'r gyfraith. Mae'n hynod bwysig bod y bobl hynny, y cnafon go iawn, os gallaf ei roi felly—y ffermwyr cŵn bach—yn cael eu cosbi a bod y gyfraith yn darparu’r modd i wneud hynny.
O ran y mater ehangach o greulondeb anifeiliaid, yn amlwg, derbyniwyd yn eang bod creulondeb anifeiliaid yn cael ei ystyried yn ymddygiad sy’n arwain at drais yn erbyn pobl. Byddai llawer o'r troseddwyr hynny, rwy'n siŵr, fel gyda phethau eraill, yn gwadu eu cyfrifoldeb yn y gweithredoedd hyn o drais, ond beth ydych chi’n ei wneud i ystyried hyn yn rhan o ddeddfwriaeth cam-drin anifeiliaid ehangach? Ac a fyddech chi’n cefnogi'r alwad yr wyf i a phobl eraill yn y Siambr hon wedi ei gwneud i’ch Gweinidog lles anifeiliaid gynnal cofrestr cam-drin anifeiliaid i Gymru, oherwydd os gallwn olrhain y troseddwyr hyn sy'n cymryd rhan yn y trais hwn yn erbyn anifeiliaid ar y cam cynnar hwn, os byddant yn mynd yn eu blaenau wedyn i droseddu yn erbyn pobl, yna gallwn geisio tynnu sylw oddi wrth ddifrifoldeb y pethau posibl y gallant ei wneud yn y sefyllfaoedd hyn? Felly, byddwn yn eich annog i ystyried hyn o ddifrif ac i wneud gwaith ymchwil yn y maes hwn.
A gaf i roi’r ystyriaeth honno ar ran yr Aelod? Mae'n syniad sy'n werth ymchwilio iddo. Nid wyf yn gwybod beth fyddai'r materion ymarferol ond, yn sicr, byddwn eisiau ystyried hyn ymhellach. Byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod gyda chanlyniadau'r ystyriaeth honno o ran y safbwynt y mae’r Llywodraeth yn ei gymryd ar hyn.
Brif Weinidog, rydw i’n gwerthfawrogi bod y Llywodraeth yn casglu data ar hyn o bryd a fydd yn llywio unrhyw adolygiad i mewn i’r rheoliadau yma. Yn yr amgylchiadau, a allwch chi roi syniad inni pryd bydd yr adolygiad hwn yn cael ei gynnal? A allwch chi hefyd gyhoeddi amserlen ynglŷn â’r mater hwn?
Nid oes amserlen mewn lle eto, ond mae hyn yn rhywbeth, wrth gwrs, bydd y Gweinidog yn rhoi i’r Cynulliad unwaith bydd yr amserlen wedi cael ei phenderfynu.
Diolch i’r Prif Weinidog.