Part of the debate – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 7 Mawrth 2017.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ar 13 Chwefror eleni, cyhoeddais y cynllun cyflawni ar gyfer strôc wedi'i ddiweddaru. Mae'r cynllun hwn yn ailddatgan ein hymrwymiad parhaus i sicrhau bod y risg lleiaf posibl o gael strôc i bobl o bob oedran. Pan fo strôc yn digwydd, rydym ni eisiau sicrhau bod gan bobl siawns ardderchog o oroesi a bod yn annibynnol eto cyn gynted â phosibl. Mae'r cynllun cyflawni yn nodi’r disgwyliadau gan yr holl randdeiliaid ac yn darparu fframwaith ar gyfer camau gweithredu i’w cymryd gan fyrddau iechyd, ymddiriedolaethau GIG a sefydliadau partneriaeth. Bob blwyddyn, bydd tua 7,000 o bobl yng Nghymru yn cael strôc. Gall hyn gael effaith hynod ddifrifol a pharhaus ar fywydau unigolion a'u teuluoedd. Mae'r Gymdeithas Strôc yn amcangyfrif bod mwy na 60,000 o oroeswyr strôc yn byw yng Nghymru ar hyn o bryd.
Ond gwnaed cynnydd da ers cyhoeddi’r cynllun strôc gwreiddiol ac, yn fwyaf arwyddocaol, mae nifer y bobl sy'n marw o strôc yn lleihau. Mae marwolaethau o ganlyniad i strôc yng Nghymru wedi gostwng 22 y cant rhwng 2010 a 2015. Mae'r canlyniadau diweddaraf a gyhoeddwyd y mis Mawrth hwn gan y Rhaglen Archwilio Genedlaethol ar gyfer Sentinel Strôc yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon—cyfeiriaf ati fel SSNAP yn nes ymlaen yn y datganiad, os caf—dangosodd yr archwiliad hwnnw fod gwasanaethau strôc ledled Cymru yn parhau i wella. Y safle sydd wedi gwella fwyaf yn ystod y ddau archwiliad diwethaf yw Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, ac mae dau safle arall yng Nghymru wedi sicrhau cyfradd gadarnhaol gyffredinol dda debyg. Ysbyty Brenhinol Gwent ac Ysbyty Llwyn Helyg yw’r rheini.
Rydym ni mewn sefyllfa gref erbyn hyn i symud ymlaen yn gyflymach fyth. Y grŵp gweithredu ar gyfer strôc sy’n darparu ein harweinyddiaeth a’n cefnogaeth genedlaethol, ynghyd ag arweinydd clinigol cenedlaethol, a leolir yn Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth. Maen nhw’n ysgogi gwelliant a cheir cydgysylltydd strôc cenedlaethol a benodwyd yn ddiweddar hefyd. Prif swyddogaeth y cydgysylltydd yw cefnogi gweithrediad y cynllun cyflawni ar gyfer strôc. Mae'r grŵp gweithredu, yn debyg i grwpiau eraill, yn dod â byrddau iechyd, y trydydd sector a Llywodraeth Cymru at ei gilydd i weithio ar y cyd. Mae'r grŵp wedi nodi ei flaenoriaethau ar gyfer 2017-18 ac mae'r rhain yn cynnwys: nodi unigolion â ffibriliad atrïaidd; ad-drefnu gwasanaethau strôc yng Nghymru, gan gynnwys datblygu gwasanaethau hyperacíwt; adsefydlu cymunedol; datblygu rhwydwaith ymchwil strôc a datblygu ac ymateb i fesurau profiad a chanlyniadau cleifion. Bydd y blaenoriaethau hyn yn parhau i gael eu cefnogi gan £1 filiwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer arloesi ac ymchwil i leihau'r risg o strôc a chyflawni canlyniadau gwell i gleifion. Mae’r £1 filiwn honno yn parhau i gael ei darparu i bob un o'n grwpiau gweithredu ar gyflyrau difrifol.
Yn yr achos hwn, mae’r cyllid penodol hwnnw wedi helpu i ddarparu hyfforddiant yn Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful er mwyn caniatáu i feddyginiaeth thrombolytig gael ei rhoi dan arweiniad nyrsys i gleifion yn yr adran Damweiniau ac Achosion Brys. Yng Nghaerdydd a'r Fro, fe’i defnyddiwyd i gefnogi’r fenter arbrofol Atal Strôc, ac mae honno’n hyfforddi aelodau staff i adnabod cleifion â ffibriliad atrïaidd a allai elwa o gyffuriau gwrthgeulo. Mae canlyniadau rhagarweiniol yn dangos pe bai’r canfyddiadau yn cael eu hailadrodd gyda llwyddiant tebyg ar draws byrddau iechyd eraill, dros gyfnod o bum mlynedd, y gellid atal mwy na 1,000 o achosion o strôc ledled Cymru. Mae'r grŵp gweithredu ar strôc yn ariannu treialon ychwanegol mewn byrddau iechyd eraill cyn eu cyflwyno’n genedlaethol o bosibl.
Rwyf hefyd eisiau dweud rhywbeth am wasanaeth ambiwlans Cymru, gan ei fod yn chwarae rhan bwysig yn y llwyddiant o ran gwella canlyniadau strôc yma yng Nghymru. Mae’n llawer mwy na gwasanaeth cyflawni cyflym. Erbyn hyn, rydym ni’n asesu ac yn cyhoeddi'r gofal y mae’r gwasanaeth ambiwlans yn ei ddarparu yn rhan o'r dangosyddion ansawdd ambiwlans. Ceir lefel uchel iawn o gydymffurfiad â'r pecyn gofal strôc a ddarperir ganddyn nhw.
Ond rydym, wrth gwrs, yn parhau i ddibynnu ar dîm cryf o weithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal i sicrhau canlyniadau gwell i bobl sy'n dioddef strôc. Felly, mae nyrsys, ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol, therapyddion lleferydd ac iaith a llawer o bobl eraill, yn ogystal â meddygon, yn rhan o'r tîm gofal iechyd hwnnw. Mae adsefydlu llwyddiannus hefyd yn dibynnu ar gael y cymorth gofal priodol ar waith. Fel llawer o bobl eraill yn yr ystafell hon, rwyf wedi gweld y cymorth hwnnw gan weithwyr gofal iechyd, awdurdodau lleol a'r trydydd sector yn fy nheulu fy hun. Gallwn, rwy’n credu, fod yn hyderus bod rhywfaint o welliant pellach yn bosibl o ran canlyniadau strôc yn ein gwasanaethau presennol. Fodd bynnag, mae angen cynllunio ein gwasanaethau strôc mewn ffordd sy’n gwneud y defnydd gorau o adnoddau cyfyngedig i wella canlyniadau a chynorthwyo wrth fynd i’r afael â’r heriau o recriwtio staff arbenigol.
Y llynedd, comisiynwyd Coleg Brenhinol y Ffisigwyr gan y grŵp gweithredu ar gyfer strôc i adolygu'r dewisiadau ar gyfer ad-drefnu gwasanaethau strôc hyperacíwt yma yng Nghymru. Modelwyd gwasanaethau strôc i gynnwys daearyddiaeth, amseroedd teithio, materion yn ymwneud â ffiniau, gwasanaethau strôc presennol a chyd-ddibyniaethau. Mae prif weithredwyr GIG Cymru wedi gofyn i'r grŵp gweithredu ar gyfer strôc a byrddau iechyd i weithio gyda'i gilydd i ystyried goblygiadau’r adroddiad hwnnw a pha gamau y mae angen eu cymryd ledled Cymru i ad-drefnu gwasanaethau strôc er mwyn sicrhau'r budd gorau posibl i gleifion.
Ond rydym eisoes wedi gweld manteision y gwaith o ad-drefnu gwasanaethau a'r hyn y gall hynny ei gynnig yng Nghymru. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae bwrdd iechyd prifysgol Aneurin Bevan wedi gweld gwelliannau sylweddol i’w canlyniadau a’u lefelau perfformiad o ran strôc, gan y darperir ei wasanaeth strôc amlddisgyblaeth saith diwrnod i gleifion o bob rhan o ardal y bwrdd iechyd erbyn hyn, gan uned strôc hyperacíwt yn Ysbyty Brenhinol Gwent. Ymwelais â'r uned y llynedd, pan wnes i gyfarfod â nyrs y flwyddyn ar y pryd; dyna’r uned y mae’n gweithio ynddi. A chlywais yn uniongyrchol gan amrywiaeth o staff proffesiynol, gan gynnwys y rheini a recriwtiwyd i’r uned honno ac a oedd wedi dod i’r uned honno yng Nghymru yn benodol yn seiliedig ar y ffaith ei bod yn mynd i fod yn uned strôc hyperacíwt.
Ar gyfartaledd, mae cleifion yn derbyn tri diwrnod o ofal yn yr uned hyperacíwt. Erbyn hynny, os nad ydynt wedi cael eu rhyddhau eisoes i fynd adref o dan ofal y gwasanaeth niwroadsefydlu cymunedol, bydd cleifion yn cael eu trosglwyddo i uned strôc arbenigol ar gyfer gofal cam-i-lawr acíwt cam yn nes at adref ar gyfer cam nesaf eu hadsefydliad ar ôl strôc. Mae'r amser sydd ei angen ar gyfer hyn yn amrywio, ond mae’n gyfartaledd o chwe wythnos. Rwy’n credu fod Ysbyty Gofal Gwent yn fodel gofal sydd yn esiampl yng Nghymru, ac mae'n arwain y ffordd i wasanaethau strôc eraill yng Nghymru. Edrychaf ymlaen at glywed sut y bydd byrddau iechyd eraill yn gweithio gyda'r grŵp gweithredu, clinigwyr a chleifion i gymryd camau tebyg i wella canlyniadau i gleifion.
Mae gan y dinesydd, wrth gwrs, ran ganolog i'w chwarae o ran osgoi strôc. Yn debyg i gymaint o gyflyrau difrifol sy'n achosi marwolaeth neu’n arwain at anabledd, mae ysmygu, deiet, ymarfer corff ac alcohol oll yn ffactorau risg sylweddol. Yn annefnyddiol, mae rhai pobl yn ceisio disgrifio hyn fel rhoi bai ar bobl am fod yn sâl. Ond rydym ni i gyd yn cydnabod na allai’r angen am newid sylweddol ac ar raddfa eang i’r dewisiadau yr ydym ni oll yn eu gwneud wrth fyw ein bywydau fod yn fwy eglur. Nid yw hyn yn berthnasol i ofal strôc yn unig. Mae angen i ni fel gwlad gael dadl llawer mwy aeddfed sy’n eglur ynghylch ein cyfrifoldebau unigol ein hunain, canlyniadau ein dewisiadau a sut yr ydym yn gwneud dewisiadau iachach yn ddewisiadau haws. Rwy’n disgwyl i ofal strôc fod yn rhan o ymgyrch ar draws faes gofal iechyd i sicrhau perthynas fwy cyfartal rhwng y dinesydd a'r clinigwr. Mae angen i wasanaethau iechyd a gofal wrando ar ba ganlyniadau a phrofiadau sy’n bwysig i'r dinesydd a’u deall.
Yn 2016, gweithiodd y grŵp gweithredu ar gyfer strôc mewn partneriaeth â'r grŵp gweithredu ar gyflyrau niwrolegol i ddatblygu mesurau profiad yn gysylltiedig â chleifion, neu PREMs, a mesurau canlyniadau cysylltiedig â chleifion, neu PROMs, ar gyfer cyflyrau strôc a niwrolegol yng Nghymru. Nod y rhaglen yw cael golwg wirioneddol ar wasanaethau o safbwynt y claf, a defnyddio eu profiad bywyd go iawn i helpu i wella gwasanaethau. Erbyn mis Mawrth 2018, fy nod yw y bydd gan Gymru PREMs a PROMs y gellir eu gweinyddu, eu casglu a’u crynhoi ar lefel genedlaethol. Dylai'r rhain helpu i nodi anghydraddoldebau yn y ddarpariaeth iechyd a gofal ledled Cymru, cefnogi’r gwerthusiad o ddatblygiad gwasanaethau a dangos newid gwirioneddol ac ystyrlon dros amser.
Datblygwyd y cynllun cyflawni ar gyfer strôc wedi’i ddiweddaru hwn trwy waith partneriaeth effeithiol. Mae’r cydweithio parhaus hwnnw rhwng Llywodraeth Cymru, y grŵp gweithredu, y GIG, cyrff proffesiynol a'r trydydd sector yn allweddol i gyflawni gwell canlyniadau yn gynt a chyda mwy o effaith, oherwydd dylem ni oll gydnabod bod yr heriau sy’n ein hwynebu yn niferus ac yn sylweddol, ond gallwn edrych i’r dyfodol gyda synnwyr o gyfeiriad a hyder a rennir. Mae fy mhwyslais pendant ar lunio system iechyd a gofal sy'n darparu’r canlyniadau gorau posibl i gleifion strôc ledled Cymru.