Part of the debate – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 7 Mawrth 2017.
Diolch i chi am y datganiad yna. Rwy'n credu bod gen i bedwar cwestiwn y byddwn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet ymateb iddynt. Mae cyfraddau goroesi wedi cynyddu yng Nghymru, fel mewn mannau eraill. Mae technoleg newydd a gwell triniaeth wedi sicrhau hynny ac, wrth gwrs, rydym ni’n croesawu hynny, a bu pwyslais eglur ar gyflwyno’r triniaethau newydd hyn ac ar wella cyfraddau goroesi. Ond rwy’n credu bod angen gwella’r gwasanaethau a gynigir ar ôl strôc, ac rwy’n meddwl bod y pwynt hwnnw’n cael ei dderbyn yn y cynllun cyflawni newydd. Mae angen i bawb sydd wedi goroesi strôc, nid dim ond rhai, gael yr adolygiad chwe mis, er enghraifft, a chael y gwasanaethau adsefydlu priodol. Mae hyn yn golygu, yn anochel, fod angen ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol a sicrhau nad yw rhwystrau sefydliadol yn atal oediadau cyn darparu’r rhain. Ond ceir diffyg data o ran faint o oroeswyr sy’n derbyn yr adolygiadau mewn gwirionedd. Felly, fy nghwestiwn data arferol: pryd y bydd rhagor o ddata ar gael ar yr adolygiadau chwe mis? Ceir problemau iechyd eraill hefyd y gall strôc eu hachosi, ac felly byddai cleifion yn elwa o fonitro agosach, ar ôl strôc, rhag ofn y bydd y problemau hyn yn datblygu. Er enghraifft, gall strôc sbarduno dementia. Hefyd, mae tua 20 y cant o gleifion strôc yn dioddef iselder yn dilyn strôc. Felly, yr ail gwestiwn: a yw Ysgrifennydd y Cabinet wedi ystyried pa ffyrdd y gellir eu datblygu i fonitro hyn, er mwyn datblygu ymyriad?
Hoffwn droi at y trydydd sector a thynnu sylw at y gwaith rhagorol a wneir gan y Gymdeithas Strôc. Mae toriadau i gyllid—yn fy etholaeth i, yn sicr—yn golygu y bu’n rhaid cael gwared ar aelodau staff. Mae hynny'n golygu toriadau ac effeithiau ar wasanaethau, ac ar allu'r Gymdeithas Strôc i helpu cleifion drwy'r broses adsefydlu. Er enghraifft, mae 1,500 o bobl yn fy etholaeth i wedi goroesi strôc—sy’n uwch na'r cyfartaledd. Mae bron i 1,500 wedi cael diagnosis o ffibriliad atrïaidd— yn uwch na'r cyfartaledd, unwaith eto. Dyna’r sefyllfa bresennol; dyna'r her yr ydym ni’n ei hwynebu. Yn y dyfodol: mae dros 11,000 wedi cael diagnosis o bwysedd gwaed uchel, felly mae gennym ni lawer o bobl mewn categorïau risg uchel, tra bo gennym ni Gymdeithas Strôc sydd eisiau cyfrannu trwy ddarparu cyswllt ac ysgogiad cymdeithasol, hybu iechyd a llesiant corfforol a meddyliol, lleihau dibyniaeth ar ddarpariaeth gwasanaethau cymdeithasol hirdymor ac yn y blaen—mae'n rhestr hir. A gaf i ofyn, fel fy nhrydydd cwestiwn, pa sicrwydd y gall Ysgrifennydd y Cabinet ei roi y bydd y Llywodraeth, gan weithio gyda byrddau iechyd, yn rhoi arweinyddiaeth o ran sicrhau y gellir cynnal a gwella gwasanaethau’r trydydd sector yn y dyfodol, fel rhan annatod o'r system ofal?
Ac yn olaf, mae cyfraddau goroesi ar draws y DU yn ddibynnol ar incwm. Maen nhw’n dilyn patrwm arferol anghydraddoldebau iechyd, ac mae pobl mewn ardaloedd tlotach, a dweud y gwir, yn llai tebygol o oroesi strôc. Ac er, yn amlwg, y byddai ffyrdd iachach o fyw—gallwn ni oll gytuno ar hynny—yn helpu i atal rhai achosion o strôc, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ystyried pa un a yw'r gwasanaethau adsefydlu sydd ar gael mewn cymunedau tlotach gystal ag y maent mewn mannau eraill, a gwneud yn siŵr nad yw’r ddarpariaeth o wasanaethau yn hyn o beth yn dilyn y ddeddf gofal gwrthgyfartal?