Part of the debate – Senedd Cymru am 3:21 pm ar 7 Mawrth 2017.
Diolch i chi am y gyfres o gwestiynau. Ni fyddwn yn dweud bod eich cwestiynau yn troelli ohonoch; mae’n rhaid i mi ddweud eu bod yn llifo ohonoch. Ni fyddwn eisiau cael unrhyw sylwadau negyddol—[Anghlywadwy.]—am sbin ar yr adeg hon. Ond rwy’n cydnabod y pwyntiau yr ydych chi’n eu gwneud ar amrywiaeth o wahanol fesurau gwella, ac yn benodol y mesurau risg ychwanegol sylweddol i rai grwpiau yn ein poblogaeth ac i bobl sy'n mynd ar draws —[Anghlywadwy.]
A dweud y gwir, un o’r blaenoriaethau a fu gan y grŵp gweithredu yw dull cyffredin o asesu risg cardiofasgwlaidd gyda grwpiau gweithredu eraill. Maen nhw wedi cyfuno rhywfaint o’u harian i gynnal asesiad risg cardiofasgwlaidd ehangach a mwy sylweddol. A bu hynny’n ddefnyddiol yn y sgyrsiau a gefais yn fy swydd flaenorol fel y Dirprwy Weinidog ar y pryd o ran siarad â grwpiau trydydd sector blaenllaw ynghylch sut y gallai hynny weithio. Felly, bu— [Anghlywadwy.]—a dynwyd ynghyd o’r grŵp trydydd sector hwnnw, a bu hynny o gymorth mawr i ffurfio eu grwpiau gweithredu eu hunain, y maen nhw’n cysylltu â nhw’n benodol wedyn, i wneud darn o waith ar y cyd. Ceir cydnabyddiaeth, fel y dywedais yn fy natganiad, ar draws y byrddau iechyd bod y ffactorau risg yr ydym ni wedi eu trafod ac a ddisgrifir yma yn ffactorau risg mewn clefydau difrifol eraill ac achosion difrifol eraill o farwolaeth ac anabledd.
O ran eich pwynt ynglŷn â chanllawiau NICE ar yr amser ar gyfer thrombolysis ac yn benodol, eich pwynt am ganllawiau’r Coleg Brenhinol Pediatreg ar sganiau CT o fewn awr o dderbyn claf, mae’r pwyntiau y byddwn yn eu gwneud fel ymateb yn cyfeirio yn ôl at y gwelliant yr ydym ni eisoes wedi ei weld. Hynny yw bod yr archwiliad SNAP yn ystyried pob man yn y DU ac eithrio’r Alban ac mae wedi bod yn offeryn defnyddiol iawn ar gyfer ysgogi gwelliant. Oherwydd pan ddechreuwyd ystyried hyn tua tair blynedd yn ôl, a dweud y gwir, roedd ganddyn nhw bum categori: A, sydd o’r radd flaenaf; B, sy'n dda iawn; C, sy’n dda; D, angen gwella; ac E, nad yw'n arbennig o dda. Ar y pryd, pan ddechreuwyd y gwaith, roedd gennym ni un safle yng Nghymru o’r rhai sy'n derbyn yn rheolaidd ar lefel D, ac roedd pob un o’r lleill ar lefel E. Felly, roedd gennym ni welliant sylweddol i'w wneud. Erbyn hyn, mae gennym ni dri neu bedwar safle ar lefel B, y mwyafrif ar lefel C neu B, ac, mewn gwirionedd, nid oes gennym ni unrhyw safleoedd ar lefel E. Felly, ar y cyfan yng Nghymru, rydym ni wedi gwella’n sylweddol. Fodd bynnag, yr her yw bod gennym ni ragor o waith gwella i’w wneud eto, a dyna pam mae’r pwynt a wnaethoch mai’r gwelliant yr ydym ni’n disgwyl ei weld fydd cydymffurfio mwy â chanllawiau NICE, ond hefyd y mesurau a'r meysydd y mae'r archwiliad SNAP yn eu mesur—. A bydd hynny yn newid yn unol â chanllawiau’r Coleg Brenhinol Pediatreg ar sganiau CT o fewn awr o dderbyn y claf.
Rhan o'n her fydd deall, os ydym ni’n mynd i ad-drefnu gofal strôc, sut y gallwn ni wneud hynny mewn ffordd nad yw'n amharu ar ein gallu i sicrhau bod rhywun yn cael y driniaeth gywir ar yr adeg gywir, fel ei fod yn cael ei gludo’n gyflym i’r ganolfan gywir ar gyfer ei driniaeth, ac wedyn, pan fydd yno, ei fod yn cael y driniaeth briodol yn y ganolfan honno. Rwy’n credu mewn gwirionedd ei fod yn atgyfnerthu'r achos dros ad-drefnu i sicrhau bod gennym ni ganolfannau priodol i ddarparu'r gofal priodol yn yr amser hwnnw. Dyna pam y dywedais yn gynharach fy mod i eisiau gweld y gwasanaeth cyfan—y clinigwyr yn gweithio gyda'i gilydd, yn gweithio gyda'r trydydd sector, a'r cyhoedd hefyd—i ddeall sut y gallai ac y dylai’r gwelliant hwnnw edrych, a chael sgwrs sy'n cyflwyno i’r cyhoedd yr opsiynau ar gyfer gwella a’r hyn y bydd yn ei olygu os byddwn yn ad-drefnu’r gwasanaethau hynny, nid yn unig o ran ble i leoli pethau yn ffisegol, ond yr hyn y mae hynny'n ei olygu o ran ansawdd y gofal y gallech chi ei ddisgwyl pe bai’r argyfwng meddygol hwn yn eich taro chi ac y byddai’n rhaid i chi fynd yno. Rwyf i wir yn credu mai’r pris i'w dalu o beidio â gwneud hynny yw byw gyda, a goddef canlyniadau annerbyniol o ran lefel yr anabledd yr ydym ni’n debygol o’i gweld neu lefel y marwolaethau diangen y gallem ni ei gweld fel arall. Felly, rwy’n cydnabod y pwyntiau yr ydych chi’n eu gwneud, ac wrth i ni fwrw ymlaen, yn dilyn rhagor o ganlyniadau archwiliadau SNAP, byddwch yn gweld mai’r hyn yr wyf yn disgwyl ei weld yw’r gwelliant graddol pellach hwnnw yn parhau.
I roi sylw i’ch pwynt am achosion o strôc ymhlith plant a babanod, mae'n faes gweithgarwch ymchwil ac mae’r flaenoriaeth ymchwil wedi ei phennu. Mae hwn yn faes o bryder penodol ynghylch datblygu ein gallu ymchwilio yng Nghymru a deall yr hyn y gallem ac y dylem ei wneud. Ni allaf roi amserlen i chi ar gyfer gwaith y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant, ond, yn amlwg, pan fydd ar gael, byddwn yn disgwyl i’r Llywodraeth edrych arno, a byddwn yn disgwyl i'r GIG, ac, yn wir, y grŵp gweithredu, i edrych arno i ddeall sut y mae hynny'n effeithio ar eu blaenoriaethau, yr hyn y maen nhw’n credu y dylem ni ei wneud i gael yr effaith fwyaf ar wneud y gwelliant mwyaf posibl i bobl yng Nghymru sydd wedi cael strôc. Felly, maen nhw i gyd yn gwestiynau dilys, ac rwy’n disgwyl gweld y gwaith hwnnw’n parhau yn y dyfodol.