Part of the debate – Senedd Cymru am 3:17 pm ar 7 Mawrth 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, diolch i chi am eich datganiad heddiw. Rwy’n croesawu’n enfawr y cynnydd sylweddol a wnaed o ran y ddarpariaeth o wasanaethau strôc. Roedd llawer yn yr adroddiad hwn a oedd yn newyddion da iawn yn fy marn i. Mae gen i un neu ddau o gwestiynau, fodd bynnag, sy’n troelli ohono.
Y cyntaf yw’r ffaith bod canllawiau NICE yn awgrymu y dylai cleifion sy'n dioddef o strôc, fel y gwyddoch, ddechrau triniaeth thrombolysis o fewn tair awr o gyrraedd yr ysbyty. Rwyf wedi cyflwyno Cais Rhyddid Gwybodaeth ynglŷn â hyn i’r holl fyrddau iechyd, ac o'r ymatebion yr wyf wedi’u derbyn hyd yn hyn, sef dim ond tri ohonyn nhw, maen nhw i gyd, yn gyson, wedi cael achosion o gleifion yn aros am rhwng tair a phum awr. Tybed a allech chi ddweud wrthyf pa gynlluniau sydd ar waith i sicrhau y gall y byrddau iechyd hyn ddechrau’r driniaeth hon o fewn y cyfnod amser o dair awr. Ac os caf i gyfeirio yn ôl at y ddadl yr wythnos diwethaf ar Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, dyma’r union bwynt yr oeddwn i’n ceisio ei wneud ynglŷn â’r ffaith nad yw achosion o strôc yn y categori coch, oherwydd fy mhryder i yw, os ydyn nhw wedi bod yn aros am sbel yn y maes, a’u bod nhw’n dal i aros eto yn yr ysbyty, yna erbyn iddyn nhw gael y driniaeth honno mewn gwirionedd, mae llawer iawn o oriau wedi mynd heibio, ac felly mae’n llai tebygol y ceir llwyddiant.
Gan ein bod ni’n sôn am y canllawiau a argymhellir, a wnewch chi hefyd wneud sylwadau ar ganllawiau diweddar Coleg Brenhinol y Meddygon sy'n dweud eu bod yn credu y dylai pob claf strôc gael sgan ar yr ymennydd o fewn awr, a pha un a ydych chi’n credu y gallwn ni gyflawni hynny?
Mae fy ail faes o holi yn ymwneud ag achosion o strôc ymhlith plant a babanod. Nawr, rwy’n cyfaddef eu bod yn brin, ond tybed a wnaed unrhyw beth yn benodol i sicrhau bod cyn lleied â phosibl o ddigwyddiadau o'r fath. Mae'r fframwaith yn cyfeirio at y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant yn ymgynghori ar ganllawiau clinigol ar strôc yn ystod plentyndod. A allech chi roi syniad o bryd yr ydych chi’n disgwyl i’r rhain gael eu cyhoeddi a pha mor hir y gallai ei gymryd i weithredu unrhyw argymhellion? Yn amlwg, mae angen llwybr eglur ar gyfer trin plant a babanod a, gan ei fod yn brin, rwy’n derbyn ei bod yn afrealistig i bob bwrdd iechyd gael darpariaeth lawn, felly roeddwn i’n meddwl tybed pa gynlluniau y gallech chi fod yn eu rhoi ar waith fel y gall plant a babanod sy'n dioddef strôc gael mynediad at y gwasanaeth gwbl hanfodol hwnnw.
I gloi, y maes olaf yr hoffwn ganolbwyntio arno yw'r agenda anghydraddoldeb—neu’r agenda cydraddoldeb. Yn ôl 'Cyflwr y Genedl', a'r ystadegau strôc a gyhoeddwyd y llynedd, mae pobl o gefndir du neu dde-Asiaidd yn dioddef strôc ar oedran sylweddol iau na phobl Gawcasaidd. A oes unrhyw beth yn cael ei wneud i dargedu addysg gofal iechyd a mesurau ataliol i'r cymunedau hynny yn benodol? Ar hyn o bryd, maen nhw o dan anfantais yn gyfan gwbl oherwydd nifer yr achosion yn eu cymuned ddiwylliannol, neu eu treftadaeth ddiwylliannol, a byddai'n ddefnyddiol iawn cael gwybod pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i fynd i'r afael â’r maes penodol hwnnw.
Yn olaf, Cymru sydd â'r ganran uchaf o bobl â phwysedd gwaed uchel fesul poblogaeth yn y DU ac, unwaith eto, roeddwn i’n meddwl tybed, yn rhan o'r cynllun cyflawni ar gyfer strôc, a ydych chi’n edrych i weld a oes unrhyw ddiweddariadau y gallwch chi eu rhoi i ni ar yr hyn y gallem ni ei wneud i leihau hynny, os oes unrhyw beth wedi newid yn ystod y 18 mis diwethaf. Diolch yn fawr iawn.